Mae AS wedi croesawu disgyblion o ddau ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i’r Senedd.
Siaradodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn senedd, i ddysgwyr eger o Ysgol Pant Pastynog ac Ysgol Tremeirchion am sut mae’r Senedd yn gweithio a’i waith yn cynrychioli etholwyr.
Dywedodd o gwleidydd o Blaid Cymru: “Roedd hi’n bleser pur i groesawu disgyblion eger o Ysgol Pant Pastynog ac Ysgol Tremeirchion i’n senedd cenedlaethol a siarad am fy rôl fel Aelod o’r Senedd.
“Dangoswyd brwdfrydedd i wneud y wlad yn well le i fyw yn ogystal ag awydd i ddysgu drwy ofyn nifer o gwestiynau heriol a meddylgar.
“Roeddent eisiau gwybod am fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd a sut y gallent ymgysylltu mwy gyda gwleidyddiaeth drwy’r Senedd, a roeddent eisiau gwybod sut y gallent godi y materion sydd yn bwysig iddyn nhw a’u gwthio tuag at ben yr agenda gwleidyddol.
“Mae’r Senedd yn cymryd penderfyniadau pwysig sydd yn cael effaith ar fywydau dydd i ddydd pobl ifanc a’u teuluoedd ac felly mae hi’n hanfodol i’n democratiaeth fan hyn yng Nghymru eu bod nhw yn dysgu am sut mae’n gweithio.
“Mae o wastad yn hynod o galonogol i weld pobl ifanc brwdfrydig yn cymryd diddordeb actif yng ngwleidyddiaeth Cymru."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter