AS yn croesawu ‘newyddion gwych’ am benodi contractydd newydd ar gyfer meddygfa

Mae AS wedi croesawu y “newyddion gwych” bod contractydd newydd wedi cael ei benodi i redeg meddygfa yn Nyffryn Conwy.

 

Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, ei fod yn gobeithio y bydd y datblygiad yn “calonogi trigolion lleol” sydd yn defnyddio Meddygfa Betws y Coed.

Heb gontractydd newydd yn ei le ar ôl i ddoctoriaid yn Meddygfa Betws y Coed ddod a’u cytundeb i ben ym mis Ebrill 2024, byddai nifer o drigolion yn gwynebu taith dwy ffordd o 36 milltir i weld meddyg teulu

Yn dilyn yr cyhoeddiad yna gwnaeth Llyr Gruffydd AS, Cynghorydd Sir Conwy Liz Roberts a chynrychiolwyr Llais Gogledd Cymru a Chyngor Cymuned Betws y Coed, gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda uwch benaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi cael ymateb cadarnhaol 'r tendr oedd yn ceisio Contractwyr GMS newydd i ymgymryd â'r gwasanaeth meddygon teulu a dosbarthu meddyginiaeth ym Metws y Coed. 

Erbyn hyn mae BIPBC wedi cadarnhau bod contractydd newydd wedi cael ei apwyntio i gymryd y practis drosodd.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Rydw i yn hapus iawn i glywed y newyddion gwych bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi llwyddo i benodi contractydd newydd i redeg practis Meddygfa Betws y Coed.

“Rydw i yn gobeithio y bydd yn newyddion yn calonogi trigolion lleol a oedd wrth rheswm yn pryderu ar ôl clywed bod doctoriaid yn Meddygfa Betws y Coed yn dod a’u cytundeb i ben ym mis Ebrill 2024.

“Pan glywais bod y cytundeb yn dod i ben galwais am o leiaf yr un lefel o wasanaeth i gael ei gynnal a rŵan mae’n edrych fel dyna fydd yn digwydd.

“Rydw i yn deall bod yna broses yn ei le nawr i sicrhau bod yr holl waith llywodraethu a gwaith papur cyfreithiol ar waith ac yna bydd y bwrdd iechyd mewn sefyllfa i rannu mwy o wybodaeth.

“Rydw i hefyd yn deall bod staff yn y practis wedi cael eu hysbysu ac yn ymwybodol o'r sefyllfa hon.”

Ychwanegodd: ”Roedd y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Llais Gogledd Cymru i drefnu y cyfarfod cyhoeddus ar y cyd gyda cynghorydd lleol Liz Roberts yn o gystal a’r gymuned ehangach yn bwysig er mwyn amlygu faint mor ddifrifol oedd y sefyllfa. Roeddwn i hefyd wedi fy nghalonogi gan barodrwydd prif weithredwr BIPBC Carol Shillabeer a’r cadeirydd Dyfed Edwards i ddod i’r cyfarfod i esbonio eu safbwynt.

“Rydw i yn gobeithio y bod hyn yn fan cychwyn ar gyfer partneriaeth newydd rhwng y bwrdd iechyd a cymunedau ar draws y Gogledd y bydd yn arwain at gleifion yn cael gwasanaeth gwell.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-02-16 14:50:55 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd