Mae AS wedi cymeradwyo cwrs hyfforddiant CPR sydd dim ond yn cymryd 15 munud i gyflawni ar ffôn symudol.
Dysgodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, am gwrs REvivR y British Heart Foundation’s (BHF) fel rhan o Heart Month.
Mae CPR yn cael ei berfformio i achub bywydau pan mewn argyfwng mae’r galon yn stopio curo.
Bob blwyddyn mae 30,000 o bobl yn y DU yn cael ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, fel llai na un mewn 10 yn goroesi.
Mae rhoi CPR a defnyddio diffibriliwr yn gallu dyblu siawns person i oriesi.
Mae’r BHF wedi datblygu REvivR, sef cwrs hyfforddiant ar-lein sydd am ddim, ac yn rhyngweithiol
Mewn dim ond 15 munud mae’n dysgu cyfranogwyr sut i achub bywyd. Cwbl mae nhw ei angen ydi clustog a ffôn symudol.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, o Plaid Cymru: “Yn aml CPR ydi y gwahaniaeth rhwng byw a marw, a dyna pam mae o yn wych bod y British Heart Foundation wedi datblygu y cwrs yma i achub bywydau.
“Roedd o yn bleser i gyfarfod eu tîm yn y Senedd a dysgu am y gwaith pwysig mae nhw wedi bod yn ei wneud.
“Mae’r data yn dangos yn glir bod rhoi CPR a diffibriliwr yn medru dyblu siawns person o oroesi os maent yn cael ataliad y galon.
“Felly y mwy o bobl sydd yn dysgu sut i wneud hyn, y mwy o fywydau mae posib achub yn y dyfodol.
“Mae’r cwrs yma yn rhad ac am ddim, mae o dim ond yn cymryd 15 munud, a felly mae o yn hawdd iawn i bobl gael tro.”
I gymryd y cwrs ymwelwch a: https://revivr.bhf.org.uk/
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter