Ymunodd AS gyda ymgyrchwyr a disgyblion ysgol i ddathlu penblwydd Diwrnod Dim Ysmygu yng Nghymru.
Wnaeth Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gledd Cymru yn y Senedd, gyfarfod cynrychiolwyr o ASH Cymru a pobl ifanc o ar draws Cymru yn y Senedd.
Mae Diwrnod Dim Ysmygu yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth er mwyn helpu ysmygwyr sydd eisiau rhoi gorau i ysmygu, dangos cefnogaeth y nhw sydd wedi cychwyn ar siwrne rhoi gorau, ac i ddathlu y nhw sydd wedi bod yn llwyddiannus yn gwneud.
Roedd y Diwrnod Dim Ysmygu yng Nghymru 40 mlynedd yn ôl yn 1984. Ers hynny mae’r nifer o oedolion yng Nghymru sydd yn ysmygu wedi gostwng o 33% i 13%.
Mae hyn yn golygu bod miloedd ar filoedd o bobl yn byw bywydau iachach hefo llawer iawn llai o risg o ganser a clefydau eraill sydd yn niweidiol ac yn peryglu bywyd.
Yn y digwyddiad yn y Senedd clywodd Mr Gruffydd am y gwaith sydd wedi cymryd lle i ymladd caethiwed i dybaco mewn cymunedau yng Nghymru.
Dysgodd y disgyblion roedd yno am y niwed mae ysmygu yn achosi i iechyd, a dysgwyd am effaith sigaréts ar yr amgylchedd a sut mae nhw yn niweidio ein moroedd a bywyd gwyllt.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Roedd hi yn bleser cyfarfod tîm ASH Cymru yn y Senedd ac i glywed am y gwaith pwysig y mae nhw wedi bod yn gwneud i ymladd caethiwed tybaco yng Nghymru ac yn ein cymunedau.
“Mae o yn bwysig bod pobl ifanc yn enwedig yn dysgu am sut y gall ysmygu niweidio eu hiechyd yn o gystal a’r amgylchedd fel eu bod nhw yn cael eu hannog i beidio pigo fyny’r arferiad.
“Mae o yn hynod o galonogol bod y nifer o oedolion sydd yn ysmygu yng Nghymru wedi gostwng o 33% i 13% ers y Diwrnod Dim Ysmygu cyntaf yn 1984.
“Mae hyn yn golygu bod llawer llai o bobl wedi colli eu bywydau mewn ffordd anamserol na fyddai wedi digwydd fel arall.
“Ond mae dal mwy i’w wneud achos fel mae’n glir or data ar gyfer y 13% o oedolion sydd dal yn ysmygu yng Nghymru ysmygu ydi y prif reswm am iechyd gwael a marwolaeth cynnar yn o gystal a ffactor sylweddol mewn anghydraddoldeb iechyd.
“Dyna pam y mae hi yn bwysig i gario ymlaen bwrw ymlaen tuag at y nod o gael Cymru sydd yn rhydd o ysmygu achos byddai ei chyrraedd yn golygu y bydd mwy o fywydau yn cael eu hachub yn y dyfodol.
“Mae Diwrnod Dim Ysmygu yn amser i adlewyrchu ar y niwed mae ysmygu dal yn achosi i nhw sydd yn dal i ysmygu a’r bobl o’i chwmpas nhw, yn o gystal a amser i fod yn obeithiol y bydd ysmygu yn dod i ben yng Nghymru o fewn y 40 mlynedd nesaf.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter