Roedd AS yn “falch iawn” i ymweld ag ysgol uwchradd yng Nghonwy er mwyn help disgyblion ymwneud a gwleidyddiaeth a datblygu eu hymwybyddiaeth dinesig
Ymwelodd Aelod Seneddol Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd, ag Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst fel rhan o’u wythnos gweithgareddau diwedd y flwyddyn.
Cymerodd y gwleidydd o blaid Cymru ran mewn sesiwn ar gyfer ddisgyblion blwyddyn 7, lle addysgwyd am rôl y Senedd a’r ffordd mae’n gweithredu.
Roedd cyfle i’r disgyblion ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Cysgodol Materion Gwledig. Gofynnwyd gwestiynau am ddatganoli mwy o bwerau i’r Senedd, cefnogaeth ar gyfer ffermwyr a mynediad pobl ifanc i trafnidiaeth cyhoeddus.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Fel Aelod o’r Senedd ar gyfer Conwy roeddwn i yn falch iawn i gael i siarad gyda phobl ifanc lleol am y materion sydd o bwys iddyn nhw.
“Dangosodd eu cwestiynau meddylgar a gafaelgar bod pobl ifanc yn awyddus iawn i ymwneud a gwleidyddiaeth, a bod ganddynt ddiddordeb brwd yn waith y Senedd achos o’r effaith uniongyrchol mae’n cael ar nifer agweddau o’u bywydau.
“Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Conwy am y croeso cynnes ac am rannu eu barn ar faterion y diwrnod.”
Cafodd yr ymweliad ei drefnu fel rhan o Wasanaeth Allgymorth Addysg y Senedd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter