Mae AS wedi galw am raglen sgrinio cenedlaethol cancr yr ysgyfaint wedi ei dargedu yng Nghymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, y buasai y mesur yn “achub bywydau” yn o gystal a “lleihau pwysau” ar y GIG.
Siaradodd y gwleidydd o Blaid Cymru ar y mater yn dilyn cyfarfod gyda cynrychiolwyr o Cancer Research UK.
Mae o eisiau Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gallai greu raglen sgrinio cenedlaethol cancr yr ysgyfaint wedi ei dargedu yng Nghymru.
Mae 1,800 o bobl yn marw o gancr yr ysgyfaint bob blwyddyn – mwy nag unrhyw gancr arall yn Nghymru. Mae o yn achosi mwy o farwolaethau o gancr nac unrhyw un arall yn y wlad.
Yn ôl arbenigwyr mae diagnosis hwyr yn ffactor arwyddocaol. Yng Nghymru nim ond 28% o gleifion cancr yr ysgyfaint hefo cam hysbys sydd yn cael diagnosis cynnar.
Gall fesurau megis sgrinio cancr yr ysgyfaint wedi targedu gael effaith ar leihau y nifer o farwolaethau.
Mae’r math yma o sgrinio ar gyfer pobl rhwng 55 a 74 oed hefo risg uchel o gancr yr ysgyfaint, fel pobl hefo hanes o ysmygu.
Wedyn oes mae’n cael ei ddangos bod y cyfranogwr hefo risg uchel o ancr yr ysgyfaint, byddent yn cael cynnig o ddos isel o sgan CT ar eu hysgyfaint.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae o yn glir bod angen gwneud llawer mwy i leihau marwolaethau o gancr yr ysgyfaint yng Nghymru. Mae llawer gomôd o bobl yn marw achos nad ydynt yn cael diagnosis yn ddigon cynnar.
“Rydym i gyd yn gwybod bod cyllidebau yn cael eu gwasgu a bod adnoddau yn gyfyngedig achos o’r sefyllfa economaidd.
“Achos o hynny mae o yn gwneud mwy o synnwyr nag erioed i dargedu adnoddau i ardaloedd lle y byddent yn cael y mwyaf o effaith. Os rydym yn targedu y bobl sydd yn gwynebu y risg mwyaf a sicrhau eu bod yn cael diagnosis cynnar y bydd triniaeth yn fwy tebygol i fod yn llwyddiannus.
“Buasai gweithredu rhaglen cenedlaethol sgrinio cancr yr ysgyfaint yng Nghymru yn achub bywydau ac yn lleihau pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn ofalus ar sut y gallai wneud hyn.
“Mae o wedi cael ei brofi mewn llefydd eraill bod y math yma o sgrinio yn effeithiol ac os mae’n cael ei weithredu gall fod yn effeithiol yng Nghymru hefyd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter