AS yn galw ar Dŵr Cymru i weithredu yn dilyn gollwng carthion yn anghyfreithlon

Mae AS wedi galw ar Dŵr Cymru i weithredu ar ôl i’r cwmni gyfaddef gollwng carthion heb ei drin yn anghyfreithlon yng Ngogledd Cymru.

Beirniadodd Llyr Gruffydd y cwmni dŵr, yn dilyn cyfaddefiad bod nifer o’i gweithfeydd trin dŵr wedi bod yn gweithredu yn groes i’w trwyddedau am flynyddoedd.

Aseswyd perfformiad 11 gweithfa trin dŵr yng Nghymru o 2018 i 2023, mewn adroddiad gan yr Athro Peter Hammond.

O’r gweithfeydd trin dŵr yma roedd 10 wedi bod yn rhyddhau carthion heb eu trin yn groes i’w trwyddedau. Roedd pedwar o’r safleoedd yma yng Ngogledd Cymru.

Yn ôl yr adroddiad roedd 374 tor rheol yn Abererch, tra roedd 14 yng Nghaernarfon, yn arwain at 65 miliwn litr yn cael ei ryddhau.

Yn Llanrwst  roedd 82 tor rheol a achosodd 168 miliwn litr yn cael ei ryddhau, tra yn Rhuthun roedd 106 tor rheol  achosodd 182 miliwm litr yn cael eu rhyddhau.

Tra mae gweithfa yn cael rhyddhau carthion heb eu trin mewn rhai amgylchiadau er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei orlethu yn ystod glaw trwm, does ddim caniatâd i ryddhau carthion cyn i’r lefel gorlif ar ei drwydded cael ei gyrraedd.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Wrth reswm mae trigolion ar draws y gogledd yn pryderu yn arw am y newyddion bod Dŵr Cymru wedi bod yn rhyddhau carthion yn anghyfreithlon am flynyddoedd.

“Mae hi yn hen bryd i Dŵr Cymru weithredu. Tra bod y cwmni wedi datgan ei fod yn gweithio i ddelio gyda hyn mae angen i ni sicrhau ei fod yn ategu ei oblygiadau cyfreithiol

 “Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i sicrhau bod y rheoliadau yn cael eu dilyn. Dylai yr argymhellion yn yr adroddiad yma ael ei cysidro yn ofalus.

“Mae yna ddadl cryf dros wneud y system yn fwy tryloyw yn o gystal a casglu data a monitro gwell, a mae rhain yn faterion rydw i wedi hybu yn y Senedd yn y gorffennol.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-11-17 15:41:10 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd