Mae AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i ddod a’r “anrhefn” ar drenau sydd wedi bod yn effeithio cefnogwyr pêl droed yn teithio i gemau Cymru i ben.
Heriodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, Mark Drakeford i ddatrys y broblem, sydd wedi achosi rhwystredigaeth i gefnogwyr yn y Wal Goch o’r rhanbarth.
Yn cwestiynu y Prif Weinidog yn y Senedd, beirniadodd y gwleidydd o Blaid Cymru y “siambls” ar y trenau sydd wedi amharu ar gefnogwyr o Gogledd Cymru oedd yn ceisio teithio i wylio Cymru yn chwarae yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd.
Mae Mr Gruffydd eisiau sicrhau” na fydd hyn yn digwydd eto” pan fydd Cymru yn gwynebu Twrci yn y gem nesaf i ennill lle yn Ewro 2024, sydd ar Dachwedd 21.
Yn ymateb i’r beirniadaeth dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “derbyn y pwyntiau” a wnaed.
Yn o gystal a hynny dywedodd y bydd yn ofyn i'r Dirprwy Weinidog, Lee Waters, godi'r pwyntiau yna gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC)
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Dwi eisiau codi'n benodol gyda chi yr anrhefn llwyr oedd ar y trenau wrth i gefnogwyr pêl-droed o ogledd Cymru geisio teithio lawr i wylio Cymru yn chwarae Croatia yn ddiweddar.
“Nawr, mi oedd hi'n siambls llwyr, ac mi oedd yna drên arbennig, gyda llaw, i gefnogwyr o'r de oedd eisiau mynd i Wrecsam i weld Cymru yn chwarae Gibraltar, ond dim trên ychwanegol cyfatebol i gefnogwyr o'r gogledd oedd eisiau dod lawr i weld y tîm cenedlaethol yn chwarae yng Nghaerdydd.
“Roedd rhai o'r trenau mor llawn mi oedd yna bobl ar y platfform yn y Fenni, ac yn gorsafoedd ar ôl hynny, yn llythrennol yn methu mynd ar y trenau. Mi oedd pobl oedd ar y trenau yn llythrennol yn methu cyrraedd y tai bach.
“Nawr, dyw hwn ddim yn rhywbeth sydd ddim ond wedi digwydd unwaith; mae e'n digwydd bob tro bron iawn.
“Mae rhywun yn teimlo bod yna fethiant llwyr pan fydd e'n dod i drefnu ar gyfer digwyddiadau mawr, yn enwedig pan fydd pobl a chefnogwyr o'r gogledd eisiau dod i Gaerdydd i weld gemau pêl-droed.
“Felly, a wnewch chi sicrhau, Brif Weinidog, yn sgil yr hyn roeddech chi'n dweud ynglŷn â'r trenau ychwanegol yn dod ar-lein, na fydd hyn yn digwydd eto pan fydd Cymru'n chwarae Twrci mewn rhai wythnosau, a hefyd sicrhau y bydd teithwyr o'r gogledd yn cael yr un gwasanaethau ychwanegol ag y mae teithwyr o'r de yn eu cael i ddilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol?”
Atebodd y Prif Weinidog: “Wel, Llywydd, dwi'n derbyn y pwyntiau mae'r Aelod yn eu gwneud. Fe allaf ofyn i'r Dirprwy Weinidog godi'r pwyntiau yna gyda TrC cyn y gemau sydd i ddod.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter