Mae AS yn galw ar reolwyr trenau i fynd i’r afael â ‘siambls’ mae cefnogwyr pêl droed Cymru yn dioddef.
Mae Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, wedi herio Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru (TrC) i sicrhau eu bod yn datrys y broblem cyn gêm ail gyfle cynderfynol Cymru yn erbyn y Ffindir yng Nghaerdydd ar Fawrth 21.
Os mae Cymru yn ennill y gêm yna bydd y tîm yn chwarae unai Gwlad Pwyl neu Estonia pump diwrnod yn ddiweddarach i gystadlu am le yn Euro 2024.
Mae dim digon o drenau a gwasanaeth gwael, yn enwedig o ac yn ôl i Ogledd Cymru, wedi amharu ar emau pêl droed rhyngwladol yng Nghaerdydd – fel y gem 1 – 1 yn erbyn Twrci a welodd Cymru yn methu allan ar ennill lle awtomatig yn Euro 2024.
Mae rheolwyr Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi ymddiheuro am y problemau gan ddweud doedd yna ddim digon o gerbydau ar draws y rhwydwaith. Yn o gystal a hynny roedd yna gyfaddefiad eu bod nhw wedi canolbwyntio mwy ar rygbi yn draddodiadol.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Ni ddylai profiad cefnogwyr pêl droed sy’n teithio i weld Cymru yn chwarae gael ei ddifetha achos dydi’r trenau iawn ddim yn teithio ar yr amseroedd iawn.
“Yn anffodus dyna oedd profiad nifer o gefnogwyr sydd wedi teithio i weld Cymru yn chwarae yn ddiweddar – yn enwedig rhai sydd wedi bod yn teithio o Ogledd Cymru. Nid yn hyn yn ddigon da.
“Dioddefodd cefnogwr a deithiwyd o Ogledd Cymru i weld Cymru yn chwarae Twrci ar Dachwedd 21 siambls arall. Roedd yna addewid o chwech trên o ogledd i de Cymru hefo o leiaf tri cerbyd yr un, ond yn y diwedd nid oedd digon o gerbydau, gan adael teithwyr ar drenau orlawn neu hyd yn oed yn gorfod aros ar y platfform.
“Ar ôl y gem roedd disgwyliad i gyrraedd Caerdydd Canolog erbyn 22:05 i ddal y trên adref pan na fyddent yn gadael y stadiwm tan o gwmpas 21:45. I fod yn blwmp ac yn blaen mae o’n hurt.
“Nid unwaith yn unig mae hyn wedi digwydd. Mae o yn digwydd bron bob tro mae gem pêl droed rhyngwladol yng Nghaerdydd.
“Mae o yn glir bod methiant llwyr pan mae o’n dod at wneud trefniadau addas ar gyfer ddigwyddiadau pwysig, yn enwedig pan mae pobl a cefnogwyr eisiau teithio i Gaerdydd o’r gogledd i weld gemau pêl droed.
“Mae hyn yn broblem rydw i wedi codi yn rheolaidd gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog a mae nhw wedi gaddo y buasent yn cysylltu hefo Trafnidiaeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei ddatrys.
“Wedyn pan mae gem bwysig yn dod o gwmpas does dim byd wedi newid. Mae angen i Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ddelio gyda hyn cyn y gem yn erbyn Y Ffindir ar Fawrth 21. Mae’n brawf i weld os mae’r gwasanaeth wedi gwella.
“Er fy mod yn croesawu yr ymddiheuriad gan Drafnidiaeth Cymru am y gwasanaeth gwael mae cefnogwyr Cymru wedi dioddef yn ddiweddar, fydd o yn golygu dim byd os nad ydynt yn delio hefo’r problemau hir-dymor yma.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter