Mae AS wedi llongyfarch busnesau o Ogledd Cymru sydd wedi ennill gwobrau gwledig.
Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, bod Gwobrau Cynghrair Cefn Gwlad yn “ffordd gwych” o anrhydeddu y bobl sy’n cadw “Cymru wledig yn ffynnu”.
Enillodd Parc Carafannau Llanbenwch, ger Rhuthun, yn y categori Menter Wledig, enillodd Jones A’i Fab, o Llanrwst, yn y categori Cigydd, ac enillodd Y Llew Gwyn yn y categori Tafarn.
Dywedodd Mr Gruffydd, o Plaid Cymru, ei bod hi yn “bwysicach nag erioed i gefnogi ac i ddathlu” y busnesau sydd yn “elfen sylfaenol o’n cymunedau gwledig yng Nghymru.”
Cafodd y Gwobrau, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel yr ‘Oscars Gwledig’ eu creu achos o’r angen i gefnogi ac i hybu cymunedau gwledig.
Maent yn dathlu pobo sydd yn gweithio i sicrhau bod diwydiant bwyd a ffermio, busnesau bach, sgiliau traddodiadol, mentrau sy'n edrych tua'r dyfodol, a’r boblogaeth, yn gallu ffynnu.
Mae yna bump categori i gyd, sef Bwyd/Diod Lleol, Siop y Pentref/Swyddfa Bost, Cigydd, Menter Wledig, a Tafarn.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn digwyddiad yn y Senedd a gafodd ei gyd-noddi gan Mr Gruffydd, sydd yn Weinidog Cysgodol ar gyfer Materion Gwledig.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Hoffwn longyfarch enillwyr Gwobrau Cynghrair Cefn Gwlad o Ogledd Cymru.
“Mae’r gwobrau yma yn gyfle i roi llwyfan i fusnesau arbennig.
“Mae busnesau fel Parc Carafannau Llanbenwch, Jones A’i Fab, a’r Llew Gwyn yn haeddu clod am y cyfraniad gwerthfawr y mae nhw yn ei wneud achos nhw yn elfen sylfaenol o’n cymunedau gwledig yng Nghymru.
“Mae o yn dyst i’r gwaith caled a’r gwasanaeth ymroddgar y maent yn darparu i’w cymunedau.
“Rydym i gyd yn gwybod bod ei cymunedau gwledig o darn straen mawr a dyna pam ei bod hi’n bwysicach nag erioed i gefnogi ac i ddathlu y busnesau yma.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter