Beirniadu Starmer am ‘danariannu’ Cymru ar ôl gwrthod addo arian HS2

Mae Keir Starmer wedi cael ei feirniadu ar ôl iddo wrthod addo rhoi cyfran teg o arian HS2 i Gymru os y bydd yn Brif Weinidog.

Mae Llŷr Gruffydd, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi cyhuddo arweinydd Llafur yn San Steffan o “danariannu Cymru” yn dilyn ymweliad diweddar i Gaergybi gyda Prif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething.

Yn ystod yr ymweliad gofynnwyd i arweinydd Llafur os y byddai yn ail-gategoreiddio  y rheilffordd fel prosiect “Lloegr yn unig os mae Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf. Buasai gwrthod gwneud yn golygu y bydd Cymru yn methu allan ar biliynau o bunnoedd.  

Mae’r llywodraeth Ceidwadol Brydeinig presennol wedi mynnu bod HS2 yn brosiect “Lloegr a Cymru” er bod y llwybr yn mynd trwy Lloegr yn unig.

Achos o hyn na fydd Cymru yn derbyn yr arian y fyddai yn ddyledus o dan fformiwla Barnett, sy’n gael ei ddefnyddio i ariannu llywodraeth datganoledig.

Mae llywodraethau Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn elwa yn y ffordd hyn.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae hyn yn fater syml o degwch. Mae o yn hollol glir i bawb bod HS2 yn a wastad wedi bod yn brosiect ar gyfer Lloer yn unig.

“Mae ei gategoreiddio fel prosiect Lloegr a Cymru er y ffaith nad oes metr o drac yn cael ei osod yng Nghymru yn hurt ac yn sarhaus.

“Mae ffaith bod Keir Starmer yn gwrthod cydnabod yr annhegwch yma ac ymrwymo i’w gywiro yn golygu ei fod yn tanariannu Cymru a’i gymunedau.

“Mae o jest yn dangos pa bynnag blaid sydd mewn gryn yn San Steffan, nid yw hi yn bosib ymddiried ynddynt i edrych ar ôl buddion pobl Cymru.

“Mae Cymru wedi dioddef o danariannu cronig achos o San Steffan am llawer rhy hir.

“Mae Fformiwla Barnett yn anwybyddu anghenion Cymru. Mae o wedi arwain at Gymru yn cael ei atal rhag cael arian o HS2, at gyllideb Llywodraeth Cymru sydd £1b yn llai, ac at awdurdodau lleol hyd a lled y wlad sydd mewn argyfwng. Mae ein cymunedau yn dioddef yn aruthrol achos o hyn.  

“Rydym yn gwybod mai nid dyma more dda a mae pethau yn medru bod i bobl Cymru. Maent yn haeddu gymaint yn well na be mae nhw yn ei  dderbyn gan y pleidiau yn Llundain.

“Mae o yn hollol glir Keir Starmer yn cymryd Cymru yn ganiataol.

“Mae o wedi dangos tro ar ôl tro ei anfodlonrwydd i symud i ffwrdd a safbwynt y Torïaid o wrthod trin Cymru yn deg.

“Ond peidiwch a cymryd o gan fi achos mi wnaeth Mark Drakeford gadarnhau hyn yn ddiweddar yn y Senedd.  

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wastad yn sefyll fyny dros degwch ac uchelgais i Gymru.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-04-05 14:15:10 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd