Mae’r newyddion bod meddygon ym mhractis Meddygfa Betws y Coed i ddod a’u cytundeb i ben ym mis Ebrill 2024 wedi arwain at ymateb gan y cyngor cymuned, cynghorydd sir yr ardal, yr Aelod Seneddol rhanbarthol a’r mudiad llais cleifion Llais.
Maent wedi cydweithio i gynnal cyfarfod cyhoeddus a fydd yn caniatáu i bobl leol roi eu barn a gofyn cwestiynau am y cynlluniau ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yn Nyffryn Conwy.
Cyhoeddodd Llŷr Gruffydd AS Gogledd Cymru, Cynghorydd Sir Conwy Liz Roberts a chynrychiolwyr Llais Gogledd Cymru a Chyngor Cymuned Betws y Coed y datganiad canlynol:
“Byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus Nos Lun, Ionawr 8fed am 7yh yn y Neuadd Goffa ym Metws y Coed ac rydym wedi gwahodd uwch benaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ddod i glywed barn y gymuned leol.
“Mae hon yn ardal wledig gyda phoblogaeth oedrannus sydd angen cynnal practis meddyg teulu. Y dewisiadau amgen posibl sy’n cael eu crybwyll i’r cleifion presennol yw teithio i Gerrigydrudion a Llanrwst, ond nid yw’r naill na’r llall yn hygyrch i lawer o gleifion y practis presennol, sy’n byw dros ardal ddaearyddol eang. Mae yna hefyd fewnlifiad o ymwelwyr i Eryri trwy gydol y flwyddyn. Mae angen ystyried hyn wrth edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol.
“Mae’n hollbwysig bod BIPBC yn ceisio recriwtio contractwr newydd, neu o fethu gwneud hyn, yn rhoi cynlluniau clir a chadarn ar waith i sicrhau fod parhad yn y gwasanaethau y mae’r gymuned hon eu hangen ac yn eu haeddu. Rydym yn annog pobl i fynychu’r cyfarfod cyhoeddus ar 8 Ionawr ac i gymryd rhan yn y trafodaethau am eu darpariaeth gofal iechyd.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a:
Llais Gogledd Cymru |
Ffôn: 01248 679284 E-bost: [email protected]
|
Cyngor Cymuned Betws-y-Coed |
Ffôn: 07778576940 E-bost: [email protected]
|
Swyddfa Llyr Gruffydd |
Ffôn: 01824 703593 E-bost: [email protected] |
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter