Ddim yn rhy hwyr i HSBC wrthdroi penderfyniad ‘annerbyniol’ i ddiddymu linell gymorth Cymraeg

Dydi o ddim yn rhy hwyr i HSBC wrthdroi y penderfyniad “annerbyniol” i gau ei linell ffôn Cymraeg, meddai AS.

Mae Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, wedi erfyn ar y grŵp bancio i wneud tro pedol ar y penderfyniad i ddod a’r gwasanaeth i ben ar Ionawr 15.

Dywedodd y gwleidydd o Blaid Cymru bod gan y banc y cyfle i “wneud y peth iawn”.

Cafodd HSBC cael ei feirniadu’n chwyrn ar ôl gadael i wleidyddion wybod mewn llythyr y byddai ei linell ffôn Cymraeg yn cael ei ddiddymu.

Ysgrifennodd Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd at y banc yn ei gyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg.

Adiodd bod “methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â'i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr”.

Cwestiynwyd be ddwedwyd gan José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC a ymddangosodd i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor ar ddiwedd mis Tachwedd.

Dywedodd y banciwr bod y llinell gymorth Gymraeg yn derbyn tua 22 galwad y diwrnod a mai dim ond 6% o’r galwadau i’r yna oedd yn cael eu hateb yn Gymraeg.

Ond tarodd y pwyllgor yn ôl gan ddweud bod hyn yn golygu bod 94% o’r galwadau ddim yn cael eu hateb yn Gymraeg a bod hyn yn dangos methiant sylfaenol yng ngwasanaeth y banc.

Dywedodd y pwyllgor bod y nifer isel i’r llinell yn adlewyrchu “anallu” HSBC  i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy'n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.”

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae yna dal gyfle i HSBC wneud y peth iawn trwy wrthdroi y penderfyniad annerbyniol i ddiddymu ei linell ffôn Cymraeg.

“Dylai reolwyr HSBC gofio y bod nifer o’i cwsmeriaid yn defnyddio ei gwasanaethau bancio achos o’i llinell gymorth Cymraeg.

“Mae’r banc yn honni nad oes digon o alw am y llinell gymorth achos mai 22 galwad mae’n ei dderbyn y diwrnod ar gyfartaledd.

“Ond mae o’n gwbl glir o’r data sy’n dangos dim ond 6% o’r galwadau yna sydd yn cael eu hateb yn Gymraeg, nid ydynt yn dod yn agos i ddarparu gwasanaeth digonol.

“Dylai galwadau sy’n cael eu gwneud i’r llinell gymorth yn Gymraeg gael eu hateb yn Gymraeg. Does dim syndod bod nifer o siaradwyr Cymraeg wedi rhoi gorau ar ei ffonio.

“Yn lle diddymu’r gwasanaeth dylai HSBC fuddsoddi ynddo yn iawn am o leiaf 12 mis, gan sicrhau ei fod yn cael ei hysbysu yn iawn. Wedyn ar ddiwedd y cyfnod yna gall gwneud asesiad lot gwell ‘r galw.

“I nifer iawn o bobl dydi cael mynediad i’w banc trwy’r Gymraeg ddim yn ‘ddewis’ fel mae HSBC yn ei ddweud.

“Mae HSBC yn dweud eu bod nhw wedi ‘cadarnhau’ bod i gyd o’u cwsmeriaid yn medru bancio yn Saesneg. 

“Mae hyn yn agwedd sydd yn perthyn i ganrif arall. Mae o hefyd yn anwir, yn enwedig i nifer o bobl hyn a bregus.

“Cysylltodd etholwraig yn ddiweddar a oedd yn teimlo yn rhwystredig ar ôl i aelod o dim gofal cwsmeriaid HSBC ofyn iddi ailyrru neges Cymraeg yn Saesneg.

“Mae hyn yn un o nifer o esiamplau o ddiystyrwch llwyr HSBC tuag at siaradwyr Cymraeg.

“Fel siaradwr Cymraeg fy hun a fel aelod o Bwyllgor Diwylliant y Senedd rydw i’n rhannu’r rhwystredigaeth fy etholwyr.

“Mae nifer o gwsmeriaid HSBC yng Nghymru wedi gweld eu canghennau lleol yn cau hefyd dros y degawd diwethaf.

“Mae’r effaith ar gwsmeriaid hŷn HSBC yn hyd yn oed mwy sylweddol, yn o gystal ar bobl sydd heb fynediad i dechnoleg digidol.

“Er bod HSBC yn hoff o ddisgrifio ei hyn fel banc lleol y byd mae o’n hollol glir nid yw hyn yn wir yng Nghymru tra ei fod yn ymadael a siaradwyr Cymraeg ac yn ymadael ein strydoedd mawr trwy gau canghennau.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-01-11 16:43:16 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd