Gall nyrs werthu’i chartref i talu am driniaeth breifat

Mae trafferthion un nyrs o Wrecsam yn amlygu sut mae'r GIG yn cael ei breifateiddio’n llechwraidd yn dilyn degawd o danariannu a chynnydd mewn rhestrau aros, medd un o Aelodau Senedd Gogledd Cymru.

Mae hi bellach yn ystyried gwerthu ei chartref er mwyn talu am ofal iechyd preifat fyddai'n ei galluogi i barhau i weithio yn ei swydd.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, fydd yn codi'r achos yn y Senedd heddiw, ei fod yn gynyddol bryderus bod mwy a mwy o bobl yn dewis mynd yn breifat mewn anobaith llwyr ar hyd rhestrau aros y GIG.

Dywedodd: "Mae'r GIG yng ngogledd Cymru wedi bod o dan straen enfawr ers degawd. Nid yw'r cyllid wedi cadw i fyny gyda'r galw gan boblogaeth oedrannus sy'n tyfu ac mae diffyg cynllun gweithlu clir i gadw nyrsys a meddygon yn eu swydd wedi arwain at orddibyniaeth ar staff asiantaeth a locwm. Mae hyn wedi bod yn costio gymaint â £3 miliwn y mis ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn unig.

"Mae canlyniad y broblem ariannu a staffio hirdymor yma bellach wedi cyrraedd ei ben. Dyna pam mae nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn streicio am well gyflog ac i amddiffyn y GIG y maen nhw'n credu ynddo mor angerddol. Rwy'n cefnogi eu hachos yn llwyr.

"Ond mae yna ganlyniad arall mwy difrifol i'r methiannau cyllid a staffio hyn - y breifateiddio llechwraidd o lawer o’n wasanaethau iechyd. Mae'n digwydd ar raddfa enfawr yn Lloegr ond yn gynyddol yng Nghymru, rydyn ni'n gweld cleifion yn mynd yn breifat oherwydd bod angen triniaeth arnyn nhw i barhau i weithio.

 "Mewn un achos dwi wedi cael gwybod amdano, mae nyrs o Wrecsam yn gorfod gwerthu ei chartref i dalu am lawdriniaeth mae hi angen ar y ddwy law. Mae ganddi broblemau twnnel carpal sy'n achosi i'w dwylo chwyddo, poenau saethu, llosgi synhwyrau, ac mae'n saethu hyd at ei phenelinoedd. Gan ei bod hi'n nyrs ddeintyddol, mae hyn yn achosi problemau enfawr o ran ei gwaith yn ogystal â'i bywyd yn gyffredinol. Y trafferthion i ddefnyddio peiriannau sy'n hanfodol i'w gwaith

"Ar ôl iddi chael gwybod fod y rhestr aros yn 12 mis o hyd ym mis Gorffennaf  'os yw'n fater brys', dywedwyd wrthi wedyn ym mis Medi ei bod bellach yn cael ei hystyried fel un brys ond bod y rhestr aros bellach yn ddwy flynedd.

"Mewn anobaith, mae hi'n ystyried mynd yn breifat gyda'i thad yn cynnig talu. Mae hi nawr yn gwerthu ei thŷ gyda'r bwriad o'i dalu'n ôl."

 Ychwanegodd Mr Gruffydd nad oedd hwn yn achos ynysig yn y rhanbarth: "Dim ond un stori yw hon, ond mae llawer o gleifion eraill wedi dweud wrtha i am eu penderfyniad anfoddog i fynd yn breifat am eu bod mewn poen ac mae'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

"Mae'r GIG yn methu'r bobl yma - nid oherwydd y staff yno ond oherwydd bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu digon o gyllid a staffio i sicrhau bod modd rheoli rhestrau aros. Roedd hyn yn broblem cyn Covid, ac er i'r pandemig wneud pethau'n waeth, rydym yn dal mewn argyfwng dwfn.

"Dylem gofio hefyd bod rhai ASau Torïaidd yn cael eu hariannu gan gwmnïau gofal iechyd preifat, sydd â diddordeb breintiedig mewn sicrhau na all y GIG ymdopi'n ddigonol. Ni ddylai gofal iechyd gael ei yrru gan elw ar gyfer cwmnïau rhyngwladol mawr ond dyma beth rydyn ni'n ei weld wrth i'r Torïaid danseilio un o sefydliadau mwyaf gwerthfawr."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gruffudd Jones
    published this page in Newyddion 2022-12-06 16:41:45 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd