Galw am ymestyn cynllun bwyd arloesol

O'r chwith: Cyng Beca Brown, Banc Bwyd Llanrug; Llyr Gruffydd AS; Cyng Steve Collings, Bwyd Da Bangor; Peter and Tia Walker Fareshare; Cyng Berwyn Parry Jones, Cwm y Glo; Liws, Pantri Pesda; Megan Thorman, Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog; and Dewi Roberts, Pantri Pesda.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ogledd Cymru Llyr Gruffydd wedi galw am ehangu cynllun arloesol sy’n cadw bwyd dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac yn sicrhau ei fod yn mynd i helpu pobl mewn angen.

Daw Cronfa Gwarged â Phwrpas Cymru i ben ddiwedd y mis yma ar ôl ailddosbarthu bron i 1200 tunnell o fwyd i elusennau a grwpiau cymunedol.
Cododd Mr Gruffydd y mater mewn cwestiwn i'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths yn siambr y Senedd: "Mae'r gwaith a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf gan y gronfa hon wedi helpu mentrau bach a chanolig i fedru cyfrannu bwyd i'r cynllun. Mae'n atal bwyd gwastraff a chreu miloedd o dunelli o CO2 tra ar yr un pryd yn galluogi elusennau a grwpiau cymunedol i rannu’r bwyd yn eu cymunedau lleol Mae potensial i’r cynllun barhau ac ehangu’n sylweddol os oes rhywfaint o sicrwydd o ran cyllid yn y blynyddoedd i ddod.
 
“Mae gwastraff bwyd yn broblem fawr ac mae hwn yn brosiect syml ond arloesol sy’n gwneud daioni tra’n lleihau niwed. O siarad gyda grwpiau cymunedol yng Ngwynedd sy’n dosbarthu bwyd dros ben o Fareshare bob wythnos, mae’n amlwg fod y math yma o brosiect yn bwysig i’r hir dymor.
 
 "Mae lle i gynnwys y gymuned amaethyddol yn y fenter hon yn ogystal â'r archfarchnadoedd mwy sydd â stoc dros ben. Dyna pam rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud ymrwymiad i ariannu'r gronfa hon dros gyfnod hirach er mwyn gallu cefnogi hyd yn oed mwy o bobl.
 
“Ar adeg pan mae prisiau bwyd yn codi'n sylweddol a’r argyfwng costau byw yn taro’n galed, mae cadw bwyd allan o safleoedd tirlenwi a’i roi ar fyrddau pobl yn ffordd effeithiol i ateb y broblem.”
Gwnaeth Mr Gruffydd gyfarfod â gwirfoddolwyr yng Ngwynedd sy'n derbyn cyflenwadau wythnosol rheolaidd trwy gynllun Fareshare i'w ddosbarthu mewn gwahanol gymunedau ar draws y rhanbarth.
Mae'r Cynghorydd Beca Brown, o Lanrug, yn helpu i redeg un yn ei phentref a dywedodd fod yr help a ddarparwyd yn amhrisiadwy: "Mae'r cynllun wedi mynd o dri neu bedwar ar draws y Gogledd cyn y cloi i tua 28 rwan a mwy yn cael eu sefydlu. Rydyn ni'n gallu dweud wrth bobl sy'n derbyn bwyd gennym ni bod hyn yn helpu i gadw bwyd rhag cael ei dirlenwi neu ei adael i bydru. Mae'n bwysig bod pobl yn deall eu bod yn helpu i leihau gwastraff bwyd yn hytrach na dibynnu ar elusen.
 
"Gallaf weld beth mae hyn yn ei olygu yn ystod ein hymweliadau wythnosol ac mae'n bwysig ei fod yn parhau, yn enw enwedig gan fod yr argyfwng  costau byw yn taro mwy a mwy o bobl.”

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2022-02-03 11:26:19 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd