Galw i ehangu meddygfa wledig llwyddiannus

Meddygfa Hanmer yn 'haeddu'r cyfleusterau modern gorau oll'

Llyr Gruffydd AS, Dyfed Edwards (cadeirydd BIPBC), Dr Keiron Redman, Dr Bill Whitehead a Geoff Ryall-Harvey o Llais

Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru wedi galw am setlo anghydfod hir dymor rhwng meddygfa arobryn a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr unwaith ac am byth.

Gwnaeth Llyr Gruffydd MS ei sylwadau ar ôl cyfarfod rhwng cadeirydd BIPBC, Dyfed Edwards, ym meddygfa Hanmer, sy’n cael ei rhedeg gan Dr Kieran Redman. Mae’r feddygfa bresennol yn gweithredu o adeilad gorlawn y mae pob plaid yn cytuno nad yw’n addas i’r diben. Bu ymgyrch ddegawd o hyd gan staff a chleifion am adeilad newydd a fyddai’n gallu cynnig gwasanaeth ehangach i gleifion yn Hanmer a'r ardal wledig o gwmpas.

Hwyluswyd y cyfarfod gan Llais, llais y cleifion, a dywedodd Llyr Gruffydd ei fod yn gobeithio y byddai’r cyfarfod yn setlo’r anghydfod hir dymor.

Dywedodd: “Ymwelais â Dr Redman yn y feddygfa am y tro cyntaf yn 2020 ac mae’n hynod o rhwystredig iddo ef, ei staff a’i gleifion i weld nad oes dim wedi dod i’r amlwg – er gwaethaf cyfarfodydd di-ddiwedd, sawl cynllun ac addewid gan amrywiaeth o reolwyr byrddau iechyd.

"Cynnig diweddaraf y bwrdd iechyd oedd cael meddygfa newydd gydag ôl troed o 298 metr sgwâr. Mae hyn yn gwbl annigonol i alluogi'r practis i gynnig digon o le i ddau feddyg, hyfforddiant i fyfyrwyr, ystafelloedd ymgynghori preifat a storfa ddigonol a staff. Mae'r bwrdd iechyd wedi cael sawl cyfle i fodloni'r gofynion hyn a dylem gofio bod Dr Redman a'i staff wedi gorfod dioddef cyfleusterau annigonol ers mwy na degawd wrth i'r anghydfod hwn fynd yn ei flaen.

"Dyna pam roeddwn i mor falch o allu ymuno â'r cyfarfod pwysig hwn gyda chadeirydd newydd BIPBC, Dyfed Edwards. Mae wedi dangos parodrwydd newydd i ymgysylltu â chymunedau sy'n teimlo eu bod yn colli cyfleusterau iechyd, rhywbeth sydd wedi'i deimlo'n ddifrifol iawn mewn ardaloedd gwledig. Yn ddiweddar cawsom gyfarfod cyhoeddus ag ef ym Metws-y-Coed gyda chanlyniad cadarnhaol iawn ac rwy’n obeithiol, ar ôl gweld y sefyllfa drosto’i hun, y bydd am sicrhau y gall y gwaith da sy’n cael ei wneud yn Hanmer barhau mewn adeilad addas i'r pwrpas.

"Byddai adeilad o'r fath yn galluogi'r practis i dderbyn myfyrwyr o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a sicrhau llif newydd o feddygon teulu a all gymryd lle'r rhai sy'n edrych i ymddeol neu am leihau eu horiau. Mae hwn yn bractis arbennig sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith arloesol yn y gorffennol ac mae’n haeddu’r cyfleusterau modern gorau oll i gyfoethogi’r gwaith hwnnw yn y dyfodol.

“Mae gan y bwrdd iechyd brif weithredwr newydd ac rwy’n gobeithio y bydd y tîm arweinyddiaeth newydd hwn yn gweld pwyslais newydd yn cael ei roi ar y gwasanaethau iechyd sylfaenol pwysig hyn.”

Dywedodd Dr Kieran Redman, sydd wedi arwain yr ymgyrch ers dros ddegawd: “Roeddem wrth ein bodd bod Mr Edwards a Mr Gruffydd wedi cymryd yr amser i ymweld â Meddygfa Hanmer i weld drostynt eu hunain yr amodau cyntefig yr ydym yn darparu gwasanaeth i’n cleifion ohonynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Mr Ryall-Harvey a'i gydweithwyr yn Llais am drefnu'r cyfarfod hwn.

“Rydym wedi bod yn ymgyrchu dros adeiladau newydd ers deuddeg mlynedd bellach; mae hyn yn llawer rhy hir. Nid yw ein cleifion yn llai pwysig na'r rhai sydd wedi'u cofrestru mewn meddygfeydd eraill sydd â safleoedd mwy newydd, mwy eang ac â chyfarpar gwell. Ac eto, mae’r pwysau cyson gan reolwyr Byrddau Iechyd i gyfyngu maint ein prosiect newydd, i rywbeth mor fach fel y byddai’n orlawn cyn y byddai’n agor, yn rhwystredig iawn.

“Rhaid i ni obeithio mai 2024 fydd y flwyddyn o’r diwedd y byddwn yn dod i gasgliad llwyddiannus i’n hymgyrch hir ac y bydd ein cleifion yn gallu derbyn gofal meddygol mewn adeiladau sy’n addas ar gyfer y 2020au yn hytrach na’r 1960au.”

Ychwanegodd Geoff Ryall-Harvey, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llais Gogledd Cymru: “Roeddem yn teimlo bod angen bwrw ymlaen â’r mater hwn ac yn falch bod Cadeirydd BIPBC a Llyr Gruffydd wedi cytuno i gyfarfod â Dr Redman a chynrychiolwyr o Grŵp Gweithredu Cleifion Hanmer. Mae cleifion a staff Meddygfa Hanmer yn haeddu gwasanaeth fodern sy’n diwallu anghenion heddiw.”

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yn ddiweddar, ymwelais â Meddygfa Hanmer i ddeall y problemau a thrafod y cynlluniau ar gyfer datblygu i wella cyfleusterau a fydd o fudd i staff a chleifion.

“Roeddwn yn falch o glywed pryderon Dr Redman o lygad y ffynnon a byddaf yn rhoi adborth i’n timau gweithredol sy’n cefnogi’r cynlluniau ailddatblygu, er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn cael adeilad addas i’r diben.

“Byddwn yn cadw mewn cysylltiad cyson â’r practis, yn ogystal â Llyr Gruffydd a LLAIS, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw wrth i’r cynlluniau fynd rhagddynt.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-02-21 16:17:27 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd