Gobaith newydd i feddygfa wedi cyfarfod cyhoeddus

O'r chwith: Cyng Liz Roberts, Cyfarwyddwr Llais Gogledd Cymru Geoff Ryall-Harvey, Llyr Gruffydd AS, Dyfed Edwards a Carol Shillabeer o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae dyfodol meddygfa yn ardal Betws-y-Coed yn edrych yn fwy addawol ar ôl i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynnal yn y pentref yn gynharach yr wythnos hon.

Clywodd y cyfarfod, a drefnwyd ar y cyd gan y cynghorydd sir lleol Liz Roberts, AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd, Cyngor Cymuned Betws-y-Coed a Llais Gogledd, oddiwrth gadeirydd a phrif weithredwr newydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr hefyd. Addawodd y ddau sicrhau y byddai'r practis yn aros ar agor ac na fyddai'n rhaid i neb symud o'r practis o ganlyniad. Yr oedd tua 150 yn bresennol.

 

Trefnwyd y cyfarfod ar ôl i feddygon teulu yn y feddygfa gyhoeddi eu bod yn bwriadu rhoi’r gorau i gontract y GIG ddiwedd mis Ebrill 2024.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru: “Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’n cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y feddygfa ym Metws-y-coed. Unwaith i Liz a minnau ddeall bod y meddygon teulu yn rhoi’r gorau i’r cytundeb, fe gysyllton ni â Llais (Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru gynt) i weld beth ellid ei wneud i gadw’r feddygfa leol ar agor yn y gymuned wledig yma. Roeddem i gyd yn teimlo, o ystyried mai’r meddygfeydd agosaf oedd Llanrwst neu Gerrigydrudion, fod hyn yn allweddol i sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg at wasanaeth hanfodol.

“Roedd y ffaith bod cadeirydd y bwrdd iechyd Dyfed Edwards a’r prif weithredwr Carol Shillabeer yn fodlon bod yn bresennol, ynddo’i hun, yn arwydd o ba mor bwysig oedd hyn. Ond roedd yn arbennig o galonogol eu clywed yn cadarnhau bod y bwrdd iechyd yn y broses o wahodd contractwyr newydd i redeg y practis. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu ac mae eu parodrwydd, os oes angen, i’w gymryd drosodd fel arfer cyflogedig nes bod cytundeb newydd yn ei le hefyd yn galonogol.

“Mae gan gontractwyr newydd posib tan ddydd Gwener i fynegi diddordeb. Gobeithiwn gael gwybod yr wythnos nesaf a fu ymateb cadarnhaol. Mae fy niolch i'r Cyng Liz Roberts, Llais Gogledd Cymru a Chyngor Cymuned Betws Y Coed am gyd-drefnu'r cyfarfod ac i Gadeirydd a Phrif Weithredwr Betsi Cadwaladr am fynychu. Roedd yn arwydd clir o’u hymrwymiad i’r gwasanaeth pwysig hwn.”

Ychwanegodd Geoff Ryall-Harvey, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llais Gogledd Cymru a oedd yn cadeirio’r cyfarfod cyhoeddus: “Roeddem yn falch o glywed bod pobl wedi dweud bod pobl yn gwrando arnynt ac yn gallu codi eu pryderon yn bersonol gyda’r bobl mwya blaenllaw yn y maes iechyd. bwrdd. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod cleifion y practis yn cael gwybod am ddatblygiadau ac yn gallu rhoi eu barn a chodi unrhyw gwestiynau pellach sydd ganddynt.”

Dywedodd cynghorydd lleol Plaid Cymru, Liz Roberts: “Mae meddygfa Betws-y-coed wastad wedi bod yn bractis uchel ei barch ac roedd mor braf clywed y Prif weithredwr, y Cadeirydd a Chyfarwyddwr Cyswllt Gofal Cychwynnol y bwrdd iechyd yn cadarnhau bod y feddygfa am aros yn y pentref a pharhau i wasanaethu'r cymunedau yn rhan uchaf Dyffryn Conwy. Rydwi wrth fy modd.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-01-12 10:28:24 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd