Gwallau cyfieithu’r Gymraeg ‘yn cael eu goddef yn rhy aml o lawer’ meddai AS

Mae gwallau cyfieithu’r Gymraeg gan gyrff cyhoeddus yn “cael eu goddef yn rhy aml o lawer”, meddai AS.

 

Cododd Llyr Gruffydd, sy’n cynrychioli Gogledd Cymru, y mater gyda Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles, yn dilyn camgymeriadau amlwg diweddar gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, bod gwallau o‘r fath yn “anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg."

Gofynnodd i’r Gweinidog i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i godi’r mater. Cytunodd Mr Miles i wneud hynny.

Daeth un gwall ieithyddol amlwg ar wefan y Swyddfa Gartref i’r golwg yn ddiweddar ar ôl cael ei rannu yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae canllawiau'r adran ar gyfer seremonïau dinasyddiaeth, sef y rhan olaf o ddod yn ddinesydd Prydeinig, yn cynnwys llw teyrngarwch "yn rhegi i Dduw Omnipotent". Mae hyn yn gamgyfieithiad o "swear" a dylai ddarllen yn “tyngu i Dduw hollalluog.

Daeth enghraifft pellach o wall sillafu difrifol i’r golwg mewn prawf rhybudd argyfwng fis diwethaf.

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud mai problem dechnegol wnaeth achosi hyn.

"Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i'ch cadw chi ac eraill yn Vogel," meddai'r neges.

Dylai'r neges fod wedi dweud: "Yn ddiogel"

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mae pawb yn gweld enghreifftiau—rhai efallai’n fwy anffodus na’i gilydd—o gam-gyfieithu neu gamsillafu o bryd i’w gilydd.

“Maen nhw’n ddoniol, efallai, ar yr olwg gyntaf, ond mae nhw’n anfon neges anffodus iawn o safbwynt statws y Gymraeg, pan ein bod ni’n gweld enghreifftiau fel hyn yn cael eu goddef yn rhy aml o lawer.

“Mi welonm ni ymarferiad y neges destun gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni mai’r bwriad oedd ein cadw ni’n 'vogel' yn lle’n ddiogel.

“Rŷm ni hefyd wedi gweld gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ein hannog ni i regi i Dduw omnipotent, yn hytrach na thyngu llw i Dduw hollalluog.

“Ond dydw i ddim jest yn pwyntio bys at Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae yna enghreifftiau anffodus yn digwydd ar draws y sector cyhoeddus.

“A wnewch chi felly, fel Llywodraeth, ysgrifennu at gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru, jest i’w hannog a’u hatgoffa nhw o’u cyfrifoldeb yn hyn o beth, ac efallai cyfleu yr un neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig?”

Atebodd Mr Miles: “Rwy'n hapus iawn i wneud hynny, ac efallai petasai llai o bwyslais ar y cwyno yn erbyn enwi Bannau Brycheiniog, a mwy o bwyslais ar gywirdeb, efallai y byddem i gyd yn hapusach.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-06-30 09:47:49 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd