Mae Gweinidog Cysgodol Materion Gwledig Plaid Cymru wedi canmol gardd farchnadol gan ddweud ei fod yn esiampl “gwych” o gynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Galwodd Llyr Gruffydd AS am fwy o gefnogaeth i gynhyrchwyr o Gymru yn ystod ymweliad i Fferm Pili-Pala Farm yng Nghwm Nant-y-Meichaid, Llanfyllin.
Mae’r gardd farchnadol yn ran o gynllun COP26 i symud tuag at amaeth a systemau bwyd sy’n well ar gyfer yr amgylchedd. Mae’r cynnyrch yn cael ei werthu y Spar lleol.
Wedi ei leoli ar acr o dir yng Nghanolbarth Cymru, mae’r cynhyrchwr o ffrwyth a llysiau ecogyfeillgar wedi bod yn hynod o boblogaidd hefo cwsmeriaid.
Mae’r bwyd sydd yn cael ei dyfu yno yn elwa o ficrohinsawdd arbennig sydd yn llawn haul a lefelau is o rew.
Mae’r bwyd yn fwy ffres, blasus, ac yn uwch mewn maeth ffrwyth a llysiau wedi ei fewnforio achos fel rheol mae’n cael ei roi ar y silffoedd y diwrnod mae’n cael ei bigo ac mae’n cael gwario mwy o amser ar y gwinwydden.
Y prif dyfwyr yw Tom Edwards, a’i nai Charlie Felton. Mae gweddill y teulu yn rhoi help llaw weithiau hefyd.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mae Fferm Pili-Pala yn esiampl gwych o be mae hi’n bosib i gyflawni o ran cynnyrch bwyd cynaliadwy fan hyn yng Nghymru.
“Mae yna symudiad diwylliannol yn digwydd lle rydym yn gweld pobl yn symud yn ôl i brynu bwyd yn lleol.
“Be mae Fferm Pili-Pala Farm yn ei ddangos ydi bod yna alw clir am gynnyrch cynaliadwy ac ecogyfeillgar o ansawdd uchel, sydd wedi cael ei dyfu yn lleol .
“Fel gwlad mae’n rhaid i ni wneud ein systemau bwyd yn gryfach. Mae angen i ni fod yn llai dibynnol ar fwyd wedi ei fewnforio o dramor.
“Ar hyn o bryd rydym yn mewnforio llawer gormod o ein ffrwythau a llysiau, sydd yn aml o ansawdd llawer is na be sy’n cael ei gynhyrchu adref.
“Mae dod a lot a fwyd i fewn o dramor yn ddrwg ar gyfer yr amgylchedd ac yn aml iawn mae o’n waeth i’r cwsmer hefyd.
“Dyma pam mae hi yn hanfodol ein bod yn cefnogi cynhyrchwyr lleol fel Tom.”
Dywedodd Tom Edwards: “Rydym yn gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol felly nid oes person yn y canol.
“Mae posib dyfu llawer iawn mewn ardal cymharol fach. Mae gerddi marchnadol yn dod yn ôl mewn i boblogrwydd, yn sicr yn Canada, America, Ewrop ac yn Sgandinafia yn enwedig.
“Ar ein gardd marchnadol bach un acr rydym yn annog amrywiaeth ecolegol, ac yn talu sylw arbennig i’r pridd.
“Achos o hynny nid ydym yn cloddio. Yn lle rydym yn meithrin yr arwyneb gyda compost gwastraff gwyrdd, felly mae’r pridd yn aros yn iach, a mae’r planhigion yn medru ffynnu. Mae o hefyd yn wych ar gyfer peillwyr.
“Rydym yn canolbwyntio ar strategaethau twf adfywiol megis adio gwastraff gwyrdd organig yn rheolaidd i arwynebau ein gwlâu a wedyn gadel y pridd i wneud y gweddill.
“Mae’r pridd clai wedi cael ei wella gyda dros 100 tunnell o gompost erbyn hyn.
“Mae gennym y stondin y tu fewn i’r Spar yn Llanfyllin, sydd yn hynod o boblogaidd gyda cwsmeriaid. Yn fan hyn mae gennym ein ffrwythau a llysiau am prisiau yr ydym yn penderfynu.
“Mae’r rhan helaeth o’r cynnyrch wedi cael ei hel o fewn 24 awr, ac yn aml wedi ei gynhaeafu ar yr un diwrnod. Rydym yn ailgyflenwi y stoc bob bore i sicrhau ei fod yn ffres.
“Rydym yn cynhaeafu ein ffrwythau, ein llysiau a blodau yn ddyddiol, a felly bydd ein cwsmeriaid yn aml yn derbyn ein cynnyrch ar y diwrnod mae o wedi cael ei bigo. Achos o hynny mae o’n para yn hirach, yn dargadw mwy o faeth, ac yn ein barn ni mae o yn blasu gymaint yn well hefyd.
“Nid ydym yn defnyddio cemegion fel plaleiddiaid ar ein cynnyrch chwaith. Mae ein ffrwythau a llysiau wedi ei dyfu yn lleol yn trefeillio 2 filltir yn unig i Spar.
“Mae o’n bwysig iawn i ni weithio ar sail comisiwn achos nid ydym yn wneud pethau ar raddfa uchel, felly fysai o yn anodd iawn i ni weithio fel busnes cyfanwerthol.
“Rydym yn penderfynu be sy’n mynd i fewn, felly fedrai droi fyny bob bore gyda cynnyrch ffres sydd llawn maeth.
“Mae ein fferm yma i bawb gael ymweld, a rydym yn annog cwsmeriaid i weld o lle mae’r bwyd yn dod a dysgu am y dulliau adfywiol rydym yn defnyddio. Rydym eisiau i Fferm Pili-Pala dod yn afan, nid yn unig ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardal ond ar gyfer pobl hefyd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter