Mae MS wedi “siomi” bod cangen NatWest yn cau yng Ngogledd Cymru.
Mae Llŷr Gruffydd, o Blaid Cymru, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, wedi galw ar y grŵp bancio i “ailfeddwl” y penderfyniad i gael gwared o’r gangen ar stryd fawr yn Shotton, Nglannau Dyfrdwy a fydd yn cau ar y 9ed o Dachwedd y flwyddyn yma.
Y bydd trigolion Shotton yn gorfod teithio i’r Wyddgrug i gael hyd i’r gangen NatWest agosach.
Cyhoeddodd NatWest yn ddiweddar y bydd y grŵp bancio yn cau 36 o ganghennau ar draws y DU, sydd yn ergyd difrifol i strydoedd mawr ar hyd a lled y wlad.
Dywedodd Llyr Gruffydd MS: “Rydw i wedi siomi yn arw hefo penderfyniad NatWest i gau y gangen ar stryd fawr Shotton.
“Mae hyn yn ergyd enfawr i’r gymuned leol, ac i fusnesau a’r trigolion sydd yn dibynnu ar y gangen ar y stryd fawr i gael mynediad i wasanaethau bancio hanfodol.
“Rydw i yn annog NatWest i ailfeddwl y penderfyniad yma, a fydd yn cael effaith negyddol ar bobl yr ardal.
“Mae o yn destun tristwch ein bod yn gweld mwy a mwy o gymunedau ar draws Cymru yn troi fewn i ddiffeithdiroedd ariannol, lle mae cael mynediad i wasanaethau bancio yn fewn i foesuthrwydd.
“Fydd y newyddion yma yn destun pryder i gwsmeriaid, yn enwedig rhai dydd ddim yn medru gwneud eu bancio arlein.
“Beth bynnag mae’r banc yn dweud, mae o yn anochel y bydd y penderfyniad yma yn arwain at bobl sydd yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau digidol yn syrthio yn bellach tu ôl.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter