Nifer o ddisgyblion yn cael prydau am ddim yn dyblu mewn ysgol diolch i bolisi Plaid Cymru

Mae’r nifer o ddisgyblion sy’n cael prydau am ddim bron wedi dyblu mewn ysgol yng Ngogledd Cymru diolch i bolisi Plaid Cymru.

Ar ymweliad i Ysgol Borthyn yn Rhuthun, roedd Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru yn hapus iawn i glywed bod y nifer wedi cynyddu o 35 i 60 yn y flwyddyn diwethaf.

Esboniodd brif athrawes yr ysgol, Tesni Lloyd-Jones bod y niferoedd yn amrywio ychydig o dydd i ddydd gyda mwy yn dewis cael pryd ysgol ar Dydd Iau a Dydd Gwener, gan ychwanegu bod y niferoedd bron wedi dyblu ers blwyddyn diwethaf. Dewisodd y gweddill ddod a bocs bwyd o adref.

Dywedodd Ms Lloyd-Jones: “Rydym yn ffodus bod gennym gogydd yn yr ysgol, sydd yn o gystal darparu a pryd a pwdin, yn mynd cam ym mhellach trwy cynnig newisiadau eraill fel prydau llysieuol, wrapiau a bar salad dyddiol.

“Mae’r prydau ysgol yn boblogaidd, yn enwedig yn y dosbarth derbyn, a mae capasiti ar gael yn y gegin a’r neuadd.

Adiodd cogyddes yr ysgol, Christine Hughes: “Mae gennym ni gegin mawr hefo digonedd o le yn y storfa felly dydi’r prydau ychwanegol ddim yn broblem o gwbl.

“Mae gennym ni yr un maint o waith, ond fedrai ddychmygu y gall fod yn fwy o her mewn ysgol gyda 300 o ddisgyblion.

Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae o yn dda i glywed am y cynnydd yn y galw ac ei fod o hyd yn oed yn fwy yn y dosbarth derbyn, lle mae 85% yn cael pryd ysgol am ddim.

“Mae o’n gwneud gymaint o wahaniaeth bod plant yn cael pryd poeth a maethlon yn yr ysgol bob diwrnod, a bod hynny yn arbed arian ar gyfer teuluoedd yn ystod argyfwng costau byw.

“Rydw i yn hynod o falch bob bolisi Plaid Cymru, a gafodd ei gytuno fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu hefo Llywodraeth Cymru yn gwneud gymaint o wahaniaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd.

“Roedd gan rai amheuon am y posibilrwydd o gyflawni hyn mewn amser mor fyr, ond mae’r tystiolaeth o’n blaen – mae ysgolion yn darparu, mae disgyblion yn elwa a mae ein polisïau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau dydd i ddydd pobl.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-07-07 16:46:22 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd