Mae landlord tai wedi cael ei annog i wella y ffordd mae’n cyfathrebu gyda trigolion lleol mewn saga parcio problemus hir dymor.
Mae preswylwyr fflatiau Heol Scotland yn Llanrwst, sydd yn berchen Cartrefi Conwy, wedi bod yn cwyno am barcio anawdurdodedig yn eu maes parcio am nifer o flynyddoedd heb lwyddiant.
Mae nifer o’r preswylwyr angen parcio yn agos i’w cartrefi achos o drafferthion mynediad.
Dywedodd gynghorydd Plaid Cymru lleol, Nia Owen: “Mae preswylwyr fflatiau Heol Scotland wedi bod yn ceisio am flynyddoedd i ddatrys y problemau parcio yma.
“Mae nhw yn breswylwyr bregus sydd angen mynediad hawdd i safleoedd parcio wrth ymyl eu cartrefi.
“Mae angen ar y safleoedd yma hefyd ar gyfer ymweliadau cyson gan ofalwyr a teulu sy’n cefnogi.
“Yn y gorffennol mae ambiwlansiau wedi cael problemau mynediad achos o’r maes parcio orlawn a heb ei reoleiddio.
“Mae preswylwyr lleol wedi bod yn poeni am y mater yma am ru hir o lawer ac heb unrhyw ddiwedd i’w weld. Rydw i yn annog Cartrefi Conwy i weithio gyda trigolion lleol a cynghorwyr lleol fel ein bod yn gallu datrys y problem yma.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mae o yn annerbyniol bod ceisiadau i weithredu wedi cael eu hanwybyddu gan y gymdeithas tai a ddylai fod yn fwy ymatebol i bryderon preswylwyr.
“Mae fy swyddfa wedi cysylltu a Cartrefi Conwy tair gwaith heb unrhyw ymateb. Dyna pam rydw i yn gwbl cefnogol ymdrechion cynghorwyr lleol Plaid Cymru i ddatrys y mater yma trwy agor deialog gyda Cartrefi Conwy.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter