Mae pobl hefo clefydau prin yn cael eu anghofio, meddai AS Gogledd Cymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, bod “angen gwneud mwy i gefnogi” pobl hefo clefydau rhiwmatig awto-imiwn prin (RAIRDs), sef amrywiaeth o gyflyrau lle mae system imiwnedd y corff yn niweidio ei meinweoedd ei hun.
Siaradodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, am y testun ar ôl cyfarfod cynrychiolwyr o Gynghrair Clefydau Rhiwmatig Awto-imiwn Prin (RAIRDA) yn y Senedd.
RAIRDA yw'r gynghrair gyntaf sy'n cysylltu sefydliadau clinigol a chleifion i ymgyrchu dros well gofal i bobl sy'n byw gydag RAIRDs yn y DU.
Mae nhw yn dweud bod gwasanaethau'r GIG yn canolbwyntio'n gynyddol ar gyflyrau cyffredin, heb fod yn rhy gymhleth, ac o ganlyniad mae cleifion â chlefydau prin yn cael eu hesgeuluso, yn gwynebu amseroedd aros hir, ac yn aml ddim yn derbyn gofal neu driniaeth ddigonol.
Mae natur RAIRDs yn golygu eu bod yn aml yn effeithio ar nifer o organau drwy’r corff, fel cymalau, croen, ysgyfaint, arennau a'r galon. Mae hyn yn golygu bod gweithio amlddisgyblaethol yn allweddol i ddarparu gofal effeithiol i bobl ag RAIRDs.
Ac eto dangosodd arolwg yn RAIRD fod gwahaniaeth o ran mynediad at ofal amlddisgyblaethol yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae o yn peri pryder i glywed bod pobl gyda clefydau rhiwmatig awto-imiwn prin yn cael trafferth cael y gofal iechyd a cefnogaeth mae nhw ei angen.
“Mae pobl hefo’r math yma o glefydau angen gofal arbenigol a pan mae mynediad i’r gofal yna yn gyfyngedig gall arwain at pobl yn methu allan.
“Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar be y gallent gwneud i ddarparu cefnogaeth gwell i gleifion sydd ddim yn cael y gwasanaeth mae nhw angen.
“Rydym yn gwybod fel nifer o wasanaethau eraill fod y gwasanaethau yma o dan bwysau a bod heriau daearyddol a heriau ran adnoddau yn ffactorau.
“Rydw i’n deall bod y cleifion hyn yn ei chael hi'n anodd hunanreoli eu cyflyrau yn effeithiol oherwydd bod gwasanaethau fel llinellau cymorth neu eu pwynt cyswllt unigol yn aneffeithiol ac ar adegau yn anodd cael mynediad atynt.
“Gall cymorth hunan-reoli gwael olygu bod clefydau pobl sy’n dioddef o RAIRDs yn datblygu’n gynt - pan mae posib osgoi hynny - yn ogystal ag achosi gofid diangen.
“Mae angen gwneud mwy i gefnogi pobl hefo clefydau prin. Mae angen taclo yr anghydraddoldeb o ran gofal a triniaeth rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd mwy trefol hefyd.
“Byddai datblygu rhwydweithiau arbenigol ar gyfer clefydau prin yn helpu gyda hyn."
“Byddai hyn yn caniatáu i glinigwyr rannu gwybodaeth a darparu triniaeth effeithiol i bobl sy'n byw gydag RAIRDs, yn enwedig pan fydd heriau daearyddol neu o ran adnoddau.
“Byddai datblygu safon ansawdd ar gyfer clefydau prin gan gynnwys RAIRDs yn helpu o ran gyrru gwelliannau mewn gofal a canlyniadau.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter