Record goroesi canser Llywodraeth Cymru yn ‘warthus’, medd AS

Mae record Llywodraeth Cymru ar gyfraddau goroesi canser yn “warthus” yn ôl AS.

Roedd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, yn ymateb i ddata newydd sydd yn dangos bod Cymru ym mhell tu ôl i wledydd eraill o ran trin Canserau Llai Goroesadwy

Rhyddhawyd y ffigyrau gan y Tasglu Canser Llai Goroesadwy (LSCT) ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Canser Llai Goroesadwy 2024.

Mae Mr Gruffydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu” er mwyn gwella’r cyfleoedd goroesi gwael sydd gan bobl sydd wedi cael diagnosis o ganserau’r ysgyfaint, yr iau, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas neu’r stumog.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddadansoddiad newydd o ddata cyfredol a’r cyfraddau goroesi rhyngwladol byd o ganserau’r ysgyfaint, yr iau, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas a’r stumog.

O blith 33 o wledydd sydd â lefelau cyfoeth ac incwm tebyg, mae'r data'n dangos bod Cymru yn safle 32 am oroesiad pum mlynedd ar gyfer canser y stumog, ac yn safle 31 ar gyfer canser y pancreas a chanser yr ysgyfaint.

Mae hyn yn codi i’r 21ain safle ar gyfer canser yr iau a chanser yr oesoffagws, ac i’r 12fed safle ar gyfer canser yr ymennydd. Mae’r lefel isel hwn o oroesi canserau sy’n llai goroesadwy yn debyg ar draws holl wledydd y DU.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae’r ffigyrau yma gan y Tasglu Canser Llai Goroesadwy yn peri pryder ac yn amlygu methiant Llywodraeth Cymru o ran Canserau Llai Goroesadwy.

“Mae o yn hynod o siomedig ond ddim yn syndod i weld faint mor ddrwg mae Cymru yn cymharu i wledydd eraill.

“Mae disgwyliad oes pobl sy’n cael diagnosis o un o’r chwe chanser hyn yn dal i fod yn syfrdanol o isel a mae hyn yn rywbeth sydd angen newid.

“Mae gweinidogion Llafur Cymru angen gweithredu i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae nifer o fesurau y gallent gymryd i wella y ffigyrau.

“Mae hyn yn cynnwys creu rhaglen i sgrinio a monitro’r bobl sydd fwyaf mewn perygl.

“Mae galwadau am hyn wedi cael eu hanwybyddu fyny at rŵan.

“Dylai’r ystadegau diweddaraf hyn atgoffa Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar flaenoriaethu a chyflymu’r camau i oroesi canser.

“Heb ymdrech a gweithredu ar y cyd nawr, byddwn yn parhau i golli cyfleoedd i achub bywydau.”

Y gwledydd â’r cyfraddau goroesi uchaf o bum mlynedd ar gyfer canserau llai goroesadwy oedd Korea, Gwlad Belg, UDA, Awstralia a Tsieina.

Fe welodd y dadansoddiad newydd y gellid achub dros 8,000 o fywydau bob blwyddyn, pe bai pobl yn y DU yn goroesi ar yr un gyfradd â’r rhai yn y gwledydd hyn.  

Ar hyn o bryd, yn y DU, mae tua 15,400 o bobl yn goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser sy’n llai goroesadwy.

Pe bai gan y DU gyfraddau goroesi tebyg i’r pum gwlad sy’n perfformio orau, gallai’r nifer hwn fod yn agos at 24,000. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-01-18 16:18:59 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd