Yn ymateb i newyddion am 3,000 diswyddiad yn safle Tata ym Mhort Talbot dywedodd AS Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, Llŷr Gruffydd:
“Mae hyn yn ergyd torcalonnus i filoedd o weithwyr Tata a’u teuluoedd, a nid hyn yw’r trosiad teg mae Llywodraethau yn Llundain ac yng Nghaerdydd wedi dweud wrthym ni eu bod nhw eisiau gweld.
“Rydw i yn gofyn am eglurder ar frys am ba effaith y bydd y penderfyniad yma yn ei gael ar y ffatri Shotton yn fy rhanbarth. Mae bron i 95% o’i ddeunydd crai yn dod o dde Cymru.
“Bydd unrhyw leihad yn y cyflenwad yna yn amlwg yn cael effaith a mae angen i’r cwmni roi eglurder ar frys am os y bydd y cyhoeddiad am Bort Talbot yn effeithio eu gweithwyr yng Ngogledd Cymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter