Mae toriad cyllid o £300m yn ‘fygythiad difrifol’ i gamlesi yn y gogledd, yn ôl AS.
Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli y rhanbarth yn y Senedd, bod y gostyngiad llym yn “dychrynllyd” a rhybuddiodd y bydd yn arwain at ddirywiad “anochel” yng nghyflwr y rhwydwaith camlesi ac y gall hyd yn oed orfodi rhai adrannau i gau.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU setliad ariannol hirdymor ar gyfer Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, sydd yn cynnwys Glandŵr Cymru ar gyfer y cyfnod o 2027 i 2037.
Mae’r rhwydwaith yng Nghymru yn cynnwys Traphont Dŵr Pontcysyllte, Traphont Dŵr y Waun, a 11 milltir o gamlas Llangollen, sydd yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Cafodd Traphont Dŵr Pontcysyllte, a Traphont Dŵr y Waun, eu dylunio gan y peiriannwr sifil adnabyddus Thomas Telford.
Dywedodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, bod y penderfyniad “anghyfrifol” gan Lywodraeth y DU wedi rhoi y Safle Treftadaeth y Byd UNESCO mewn “perygl” a mae o wedi galw ar weinidogion Torïaidd i “ailfeddwl”.
Mae’r swm yn ostyngiad sylweddol o dros £300 miliwn yn nhermau real dros gyfnod o ddeg mlynedd.
Mae maint y toriad wedi cael ei ragweld i godi bob blwyddyn, a cyrraedd gostyngiad blynyddol o bron i £50m erbyn diwedd y cyfnod grant yn 2036.
Mae’r toriad mor llym ei fod wedi creu pryderon y bydd yn anochel y bydd yn golygu toriadau i gyllideb cynnal a chadw camlesi, ac yn arwain at gamlesi yn gorfod cauyn y diwedd.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mae angen cofio bod rhain yn ddyfrffyrdd hanesyddol, ac maent yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
“Mae Traphont Dŵr Pontcysyllte, Traphont Dŵr y Waun, yn o gystal a 11 milltir o gamlas Llangollen yn ran pwysig o’n etifeddiaeth diwylliannol yng Nghymru, ac yn amlwg mae’r toriad yma gan Lywodraeth y DU yn fygythiad difrifol.
“Dros gyfnod o 10 mlynedd 0 2027 mae’n cynrychioli bron i haneru yn y gyllideb ar gyfer gamlesi yn nhermau real. Mae’n anochel y bydd yn arwain at ddirywiad yng nghyflwr y rhwydwaith camlesi a’r posibiliad dychrynllyd o gamlesi yn gorfod cau.
“Gwnaethpwyd y penderfyniad yma gan Lywodraeth y DU er bod adolygiad ei hun wedi cadarnhau bod ariannu’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd werth yr arian.
“Dangoswyd bod y rhwydwaith o gamlesi yn darparu buddion sylweddol i’r economi, i bobl a cymunedau, yn o gystal a natur a bioamrywiaeth.
“Mae’r cyhoeddiad yma yn creu peryg troi y cloc yn ôl ar un o storïau adfywio etifeddiaeth mwyaf llwyddiannus Cymru, ac y bydd yn arwain at golli cynefin hanfodol natur, mannau cyhoeddus poblogaidd, a cholled o buddion sylweddol i filiynau o bobl.
“I wneud pethau’n waeth, mae’r penderfyniad yma yn dod ar amser lle mae cost cynnal a chadw camlesi yn codi yn sylweddol. Mae camlesi yn dod a fuddion o wyrddni a choridorau naturiol i ardaloedd trefol
“Mae gweinidogion Torïaidd angen ailfeddwl y penderfyniad niweidiol yma.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter