Toriadau i brentisiaethau yn ‘difrodi’ economi y gogledd, medd AS

Mae AS Gogledd Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am y cynllun i wneud toriadau i brentisiaethau.

Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r Gogledd Cymru yn y Senedd bod gweinidogion Llafur yn “difrodi” economi y rhanbarth ac yn “cefnu ar bobl ifanc”.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025 yn awgrymu toriadau o bron 25% i’w raglen prentisiaethau..

Mae disgwyliad i hyn arwain at 10,000 yn llai o bobl yn cychwyn prentisiaeth yng Nghymru, sydd yn leihad tua 50% o brentisiaid.

Yn o gystal a hynny mae disgwyliad y bydd y toriadau yma yn atro merched, pobl ifanc, pobl difreintiedig a pobl hŷn yn galetach.

Wnaeth Plaid Cymru gynnal dadl yn y Senedd yn ddiweddar am bwysigrwydd prentisiaethau i economi a gweithlu Cymru.

Daeth y cynnig i dorri prentisiai ar adeg pan mae 80% o fusnesau bychain wedi cael trafferthion yn recriwtio y gweithwyr y mae nhw ei angen achos o brinder sgiliau.

Cyn i’r gyllideb gael ei gyhoeddi cyfaddefodd y Blaid Llafur ni fyddai’n cyrraedd ei darged o greu 125,000 o brentisiaethau bob oed erbyn diwedd y tymor seneddol presennol.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Os mae Cymru am fod yn wlad llewyrchus, deinamig, uchelgeisiol ac arloesol mae o yn hanfodol i ni fuddsoddi mewn prentisiaethau  

“Dim ond hynny fydd yn galluogi gweithwyr y dyfodol i gyrraedd eu potensial.

“Yn anffodus, yn y gyllideb ddrafft gwelsom Llywodraeth Cymru yn cynnig toriad sylweddol i ariannu prentisiaethau.

“Wrth reswm mae hyn wedi peri pryder i nifer o golegau addysg pellach a’r diwydiannau llafur medrus yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r penderfyniad yma yn debygol o arwain at 10,000 yn llai o bobl yn cychwyn prentisiaeth yng Nghymru yn flwyddyn nesaf.  

“I roi cyd-destun, rhain yw rhai o’r toriadau mwyaf a mwyaf dinistriol i brentisiaethau yn hanes datganoli. Yn syml y bydd hyn yn difrodi economi GogleddCymru.

“Nid yn unig y bydd hyn yn golygu ba fydd nifer o bobl ifanc yn cael y cyfleoedd i ddatblygu y sgiliau i symud eu gyrfaoedd ymlaen, y bydd hefyd yn golygu y bydd busnesau lleol yn cael ei gadael heb y gweithwyr medrus y mae nhw ei angen.  

“Mae prentisiaethau yn chwarae rôl allweddol yn creu cyflenwad o weithwyr medrus ar gyfer y farchnad swyddi yng Ngogledd Cymru ac ar draws yr wlad.

“Mae yna nifer o fusnesau hefo record gwych o fuddsoddi yn y gweithlu. Yn anffodus mae nhw’n cael eu gadael i lawr gan Lywodraeth Cymru.

“Dylai bod y Llywodraeth yn hybu a datblygu prentisiaethau achos rydym angen mwy o weithwyr medrus nid llai. Yn lle mae’r Llywodraeth yn cefnu ar bobl ifanc trwy wrthod buddsoddi yn eu dyfodol.

“Mae’r penderfyniad yma yn annheg a bydd yn cael effaith niweidiol ar economi Cymru am flynyddoedd i ddod os mae’n mynd yn ei flaen. Mae angen i weinidogion Llafur ailfeddwl hyn.

“Rydym yn dioddef o brinder gweithwyr medrus yn barod a bydd y diffyg rhagwelediad a diffyg ariannol dim ond yn gwneud y sefyllfa yn waeth.

“Mae angen i Llywodraeth Cymru ailfeddwl y toriad yma i brentisiaethau cyn achosi difrod i’r economi wneith gymryd blynyddoedd maith i adfer.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-01-26 15:18:08 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd