Bu Llyr Gruffydd yn ddigon ffodus yn ddiweddar i gael gwahoddiad i ymweld â Chlwb Tenis Ieuenctid Caernarfon i weld beth sydd ganddyn nhw ar y gweill.
"Mae'r gwaith mae'r staff hyfforddi yn ei wneud gydag ieuenctid yr ardal yn anhygoel" meddai Mr Gruffydd,
Mae'r clwb bellach yn denu dros gant o blant oed ysgol i chwarae tenis bob wythnos yng Nghanolfan Tenis Arfon a adeiladwyd yn bwrpasol yn y dref, ac yn ddiweddar mae wedi denu cyllid gan Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau.
Dywedodd Osian Williams, sy'n brif hyfforddwr yn y clwb
"Diolch i'r cyllid o £200,000, rydym wedi llwyddo i sicrhau dyfodol y clwb yma yng Nghaernarfon. Rydym wedi buddsoddi mewn goleuadau newydd, ail-wynebu'r cyrtiau a llawer iawn mwy"
"Er bod tenis yn y ganolfan wedi bod yn dirywio ers ei anterth yn y 1990au, mae'r cyllid hwn wedi cefnogi'r twf mewn tenis yn ardal Caernarfon yn ystod y blynyddoedd diwethaf."
"Rydyn ni'n glwb tennis unigryw mewn ffordd. Ni yw'r unig glwb tennis ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn y byd, sy'n rhywbeth arbennig rydyn ni'n meddwl."
Ychwanegodd Mr Gruffydd -
"Mae tenis yn ardal Gwynedd yn cystadlu yn erbyn chwaraeon poblogaidd eraill o ran denu chwaraewyr ieuenctid, ond mae cyflawniad y staff a'r gwirfoddolwyr yma yng Nghaernarfon yn anhygoel. Mae denu cymaint o chwaraewyr ifanc i'r gamp yn dipyn o gamp."
"Efallai y gwelwn sêr tennis y dyfodol yn dod i'r amlwg o'r clwb - gyda'r cyfleusterau ar gael iddyn nhw yma, does dim byd i'w hatal rhag cyrraedd yr uchelfannau."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter