Mae Llyr Gruffydd AS wedi llongyfarch disgyblion ysgol Sir Ddinbych am ennill gwobr teithio llesol.
Disgrifiodd Mr Gruffydd, sy'n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, gamp Ysgol Llywelyn o fod yr ysgol gyntaf yn y rhanbarth i ennill Gwobr Aur Sustrans Cymru fel un "hynod drawiadol".
Yn ddiweddar ymwelodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, â'r ysgol i glywed am y gwaith y mae plant wedi bod yn ei wneud i newid y ffordd y maent yn teithio i'r ysgol fel ei fod yn iachach ac yn fwy ecogyfeillgar.
Mae Sustrans Cymru yn elusen sydd ar genhadaeth i helpu cymunedau i ddod yn fyw drwy gerdded, olwynion a beicio i greu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb.
Meddai Llŷr Gruffydd: "Roedd yn bleser pur cael cwrdd â staff a disgyblion Ysgol Llywelyn, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am eu croeso cynnes.
"Mae'n gamp aruthrol o drawiadol i fod yr ysgol gyntaf yng ngogledd Cymru i dderbyn Gwobr Aur Sustrans Cymru am hyrwyddo teithio llesol.
"Mae'r disgyblion yn amlwg wedi mynd y tu hwnt i wneud teithio llesol yn rhan bob dydd o fywyd yr ysgol, ac wedi ei wneud yn hwyl ar yr un pryd.
"Maen nhw'n esiampl wych i ddisgyblion eraill ar draws y rhanbarth o'r hyn y gellir ei gyflawni a sut y gall ysgolion fod yn rhagweithiol, herio ymddygiadau teithio a'u newid er budd pawb.
"Mae'r wobr hon nid yn unig yn bluen yn het yr ysgol. Mae hefyd yn destun balchder i'r gymuned leol i gyd.
"Rwyf am weld teithio llesol yn dod yn norm yng Nghymru lle mae hynny'n bosibl. Dylai cerdded, beicio neu sgwtera i'r ysgol fod yn opsiwn diogel, hawdd a hygyrch i bob plentyn yng Nghymru.
"Mae newid y ffordd rydyn ni'n teithio i'r ysgol yn ffordd effeithiol o gynyddu lefelau gweithgarwch ymhlith plant, ac mae hefyd yn allweddol os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae Sustrans Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i gyflawni hyn."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter