Newyddion

Croesawu tair ysgol i'r Senedd

Ysgol Dyffryn Iâl

 

 

Ysgol Caer Drewyn

 

Ysgol Carrog

 

Yn ddiweddar cafodd Llyr Gruffydd y fraint o groesawu tair ysgol o Sir Ddinbych i'r Senedd yng Nghaerdydd.

 

Daeth disgyblion o Ysgolion Carrog, Dyffryn Iâl ac Ysgol Caer Drewyn, Corwen draw i'r Senedd i ddysgu am waith dydd i ddydd yr aelodau, yn ogystal a thrafod rhai o'r materion pwysig y mae wedi bod yn ymgyrchu arnynt.

Mae ymweliadau â'r Senedd yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddeall yn well sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, yn ogystal â dysgu mwy am sut y gallant helpu i lunio dyfodol y wlad.

 

Dywedodd Llŷr Gruffydd-

"Gwych oedd gallu croesawu disgyblion o Ysgol Dyffryn Ial; Ysgol Carrog ac Ysgol Caer Drewyn i'r Senedd.

 

"Roedden nhw'n amlwg yn frwdfrydig dros ddysgu sut mae democratiaeth ifanc yn gweithio yng Nghymru, a sut y gallan nhw helpu i lunio dyfodol y wlad.

 

"Mi oedden nhw nhw eisiau gwybod sut y gallen nhw gael y materion sy'n effeithio arnyn nhw a'u cymunedau yn uwch na'r agenda wleidyddol. Mae'n ddigon posib mai gwleidyddion y dyfodol fydd rhai ohonynt.

 

"Roedd eu cwestiynau'n feddylgar ac roedden nhw'n dangos gwir angerdd dros wneud y wlad yn lle gwell."

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

"Rhowch ddiwedd ar y camarwain ar sgandalau iechyd meddwl"

 

 

Yr wythnos diwethaf yn y Senedd fe alwodd Llyr Gruffydd am oruchwyliaeth annibynnol dros ymchwiliadau i sgandalau iechyd meddwl, a galwodd am roi diwedd ar gamarwain gweinidogion ar welliannau i ofal iechyd meddwl.

Dywedodd Mr Gruffydd fod y methiant i weithredu argymhellion i fynd i'r afael â phroblemau a godwyd mewn adroddiadau olynol yn cyhuddiadau damniol o broblemau hanesyddol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ogystal â methiannau goruchwyliaeth Llywodraeth Lafur Cymru. Cadarnhaodd adolygiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a gyflwynwyd i'r bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf mai dim ond 24 allan o 66 o argymhellion oedd wedi cael eu gweithredu, gyda'r gweddill yn cael eu hystyried yn goch neu'n ambr .

 

Mewn cwestiwn yn y Senedd, dywedodd Llyr Gruffydd:

"Dro ar ôl tro, rydym wedi cael Gweinidogion yn sefyll i fyny yn y Siambr hon ac yn dweud wrthym fod pethau'n cael eu datrys. Comisiynwyd adroddiad ar ôl yr adroddiad, fel y clywsom, gydag argymhellion a wnaed, ac rydym i gyd wedi cael ein harwain i gredu y byddai pethau'n newid.

 

"Nawr, mae'r adroddiad damniol diweddaraf hwn i'r bwrdd iechyd yn datgelu nad yw'r mwyafrif o argymhellion mewn adroddiadau olynol i sgandalau iechyd meddwl yn y Gogledd wedi cael eu gweithredu. Ydych chi fel Llywodraeth felly wedi cael eich camarwain - neu byddai rhai yn dweud efallai eu twyllo - gan rywun? Ac os oes gennych chi, mae hynny ynddo'i hun yn sgandal arall i'w ychwanegu at restr hir iawn.

 

"O ystyried yr holl fethiannau hyn, onid yw'n bryd nawr newid y ffordd ydych chi'n delio â'r materion? Oni ddylech fod yn sefydlu pwyllgor goruchwylio annibynnol nawr, sy'n cynnwys Llais, llais y cleifion, teuluoedd yr effeithir arnynt, y trydydd sector ac eraill, i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu cyflawni, unwaith ac am byth?"

 

Yn siarad yn ddiweddarach, ychwanegodd Llyr Gruffydd "Dyw hi ddim yn ddigon da i ni gael blagur gan weinidogion yn dweud bod popeth mewn llaw pan mae'n amlwg ddim. Mae'n ddegawd ers i weinidogion gael gwybod bod cam-drin sefydliadol yn digwydd ac roedd hynny'n cael ei wadu yn y siambr hon. Dim ond nawr y mae nyrsys yn cael eu diswyddo am gam-drin cleifion ond, er bod staff nyrsio dan bwysau yn cael eu disgyblu, mae'n ymddangos nad oes cosb gyfatebol i uwch reolwyr."

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymgyrch ‘Achub Ein Meddygfeydd’ i adfer cyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

 

Mae Llyr Gruffydd AS wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i fabwysiadu ymgyrch allweddol ‘Achub Ein Meddygfeydd’ BMA Cymru i adfer cyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu i 8.7% o gyllideb bresennol GIG Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd -
“Practisau meddygon teulu yw’r porth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ond gan ein bod ar fin gweld y 100fed practis yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd, mae pob un ohonom ni yn deffro i'r ffaith fod y sector mewn argyfwng. Gwyddom fod mynediad at y gwasanaethau hyn yn symptomatig o broblemau capasiti. Mae’n gylch dieflig o feddygon teulu yn ymddeol yn gynharach neu’n gadael y proffesiwn oherwydd pwysau gwaith cynyddol, gan arwain at straen pellach ar weddill y gweithlu. Mae hyn i gyd yn arwyddion pellach o danariannu cronig gan Lywodraeth Lafur Cymru sy’n methu hyd yn oed gydnabod maint y broblem.”

Ers 2012, mae nifer y practisau meddygon teulu wedi gostwng o 473 i 374, gyda nifer o bractisau meddygon teulu hefyd yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd oherwydd bod partneriaid yn rhoi contractau yn ôl. Dyma un o'r arwyddion cadarnaf fod meddygfa mew trafferth - y ffaith ei bod yn cael ei rheoli yn uniongyrchol gan yr awdurdod.  Mae cyfanswm nifer y meddygon teulu yng Nghymru hefyd wedi gostwng mwy na 400 mewn deng mlynedd oherwydd pwysau gwaith cynyddol a chyllidebau llai.
Mae anniddigrwydd eang ar draws gogledd Cymru, gan fod mynediad at bractisau meddygon teulu yn broblem gynyddol a bod mwy o bractisau a reolir gan fyrddau iechyd yn rhanbarth Betsi Cadwaladr nag yng ngweddill Cymru gyda’i gilydd.

Ychwanegodd Llyr Gruffydd -
“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cydnabod bod y problemau yn ein gwasanaeth iechyd yn rhedeg yn ddwfn ac yn gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r problemau ym maes gofal sylfaenol. Ochr yn ochr â gwrthdroi degawd o doriadau ac adfer y gyllideb practis cyffredinol i 8.7% o wariant y GIG, bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda’r proffesiwn i ddatblygu rhaglen cadw a hyfforddi i recriwtio 500 yn fwy o feddygon teulu dros gyfnod o ddau dymor. Mae angen gweithredu dewr yn fwy nag erioed i achub ein GIG.

“Mae’r broblem yn un ar gyfer pob rhan o Gymru ond mae’n arbennig o ddifrifol yma yn y Gogledd, lle mae gennym ni 13 o bractisau a reolir a phroblemau enfawr gyda phractisau meddygon teulu o ran recriwtio a chadw. Yn y misoedd diwethaf rwyf wedi cyfarfod â meddygon teulu yn ardaloedd Glannau Dyfrdwy, Wrecsam a Chonwy ac mae’n amlwg nad oes gan y llywodraeth Lafur weledigaeth i sicrhau bod y rhan hanfodol hon o’r GIG yn cael ei diogelu a’i chryfhau. Mae angen gweithredu’n feiddgar.”

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

A wnaiff y llywodraeth unioni’r sefyllfa sy’n arwain cynifer o bobl anabl i dlodi?

Ddoe yn y Senedd gofynnodd Llyr Gruffydd AS a oedd oedolion anabl yng Nghymru yn cael eu plymio'n ddyfnach ac yn ddyfnach i drafferthion ariannol a gofynnodd - beth fydd y llywodraeth yn ei wneud i unioni'r sefyllfa?


Mewn cwestiwn i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol gofynnodd Llyr Gruffydd -

“A ydych chi’n cytuno nad yw’r cynigion i gynyddu’r cap ar ofal cymdeithasol dibreswyl i oedolion yng Nghymru wedi’u llunio'n ddigonol ac a ydych chi’n cydnabod y bydd hyn mewn gwirionedd yn plymio pobl anabl hyd yn oed yn ddyfnach i drafferthion ariannol?”


Cyflwynwyd y cwestiwn hwn mewn ymateb i adroddiadau gan rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru eu bod wedi dosbarthu bron i 190,000 o barseli bwyd brys yn ystod y 12 mis o fis Ebrill y llynedd. Dyna'r nifer uchaf o becynnau maen nhw erioed wedi gorfod eu cyflenwi. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 73 y cant o’r bobl hynny a atgyfeiriwyd at fanciau bwyd yn bobl anabl, sy’n fwy na dwbl cyfran y boblogaeth sydd wedi’u cofrestru’n anabl.

Yn ogystal â hyn, mewn adroddiad gan Sefydliad Bevan a ryddhawyd y llynedd, amlygwyd nad yw’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb yn gyfartal, gyda rhai grwpiau’n cael eu taro’n arbennig o galed, gan gynnwys pobl ag anableddau. Amlygodd yr adroddiad fod pobl anabl weithiau, yn aml neu bob amser yn cael trafferth gyda chost eitemau hanfodol 10% yn fwy na chyfartaledd Cymru. Amlygodd hefyd fod 41% o bobol anabl sydd yn rhentu tai yn dweud eu bod weithiau, yn aml neu wastad yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion byw. Mae pobl anabl ymhlith y rhai mwyaf tebygol o adrodd am dorri’n ôl neu fynd heb fwyd neu wres ac maent mewn mwy o berygl o fod mewn dyled na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae ymchwil gan yr elusen anabledd Scope yn awgrymu bod costau byw yn uwch ar gyfer pobl ag anableddau, sy'n dangos bod aelwydydd anabl yn gwario £625 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd o gymharu â chartrefi nad ydynt yn anabl.

Yn ei hymateb i Llyr Gruffydd, dywedodd Leslie Griffith-


“Fel Llywodraeth, fe fyddwch chi’n gwybod ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl i wneud yn siŵr eu bod nhw’n derbyn popeth y dylen nhw ei wneud, ac mae gennym ni hefyd siarter budd-daliadau Cymru, yr wyf yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hi.”

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae Llyr Gruffydd yn holi'r Prif Weinidog a ydi o yn difaru peidio â gwneud mwy mewn ymateb i honiadau o gam-drin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.

 

Ddydd Mawrth gofynnodd Llyr Gruffydd AS i Vaughan Gething, y Prif Weinidog a fyddai'n newid ei farn am yr honiadau o gam-drin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Daw hyn yng ngoleuni tystiolaeth newydd o'r diwylliant o gam-drin mewn unedau yn y gorffennol.

Yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog gofynnodd Llyr Gruffydd -

Ydych chi nawr eisiau adolygu eich safbwynt blaenorol? Oni ddylech fod wedi gwneud mwy ar y pryd i gyrraedd y gwir? Ac a ydych bellach yn difaru cyfleu darlun gwahanol iawn pan oeddech chi'n Weinidog, o gofio ein bod bellach yn gwybod bod y realiti yn wahanol iawn, iawn?"

Datgelwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cymryd camau i ddiswyddo nyrs seiciatrig ar ôl gwrandawiad am yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel cam-drin sefydliadol yn yr uned, gan fynd yn ôl dros 10 mlynedd. Adeg yr achosion honedig o gam-drin Mr Gething oedd y gweinidog oedd yn gyfrifol am iechyd.

Atebodd Mr Gething -

"Pan oeddwn i'n Ddirprwy Weinidog Iechyd ac, yn wir, yn Weinidog y Cabinet dros iechyd, roeddwn bob amser yn glir iawn am y ffaith bod methiannau sylweddol mewn gofal iechyd, ac ar yr adeg pan wnes i'r sylwadau hynny, nid oedd tystiolaeth i gefnogi canfod cam-drin sefydliadol.


"Yr hyn a wnaethom, serch hynny, oedd cael ymchwiliad chwilio i'r hyn oedd wedi digwydd yno, ac, yn wir, mae hynny'n parhau nawr, nid yn unig yn yr un uned ond mewn gwirionedd i edrych ar wasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru. Felly, mae'r Llywodraeth, Eluned Morgan, wedi sicrhau bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd meddwl er mwyn deall a rhoi sicrwydd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn argymhellion blaenorol."

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Croesawu disgyblion Ysgolion Bryn Tabor a Bro Alun i'r Senedd

Mae Llyr Gruffydd AS wedi croesawu disgyblion "awyddus" o ddwy ysgol yn sir Wrecsam i'r Senedd lle dysgon nhw am ddemocratiaeth Cymru.


Cafodd disgyblion Ysgol Bryn Tabor, yng Nghoedpoeth ac Ysgol Bro Alun, yng Ngwersyllt, daith dywys o amgylch Senedd Cymru.


Siaradodd Llyr Gruffydd â'r bobl ifanc sut mae'r Senedd yn gweithio ac am ei rôl yn ymladd ar ran etholwyr ac yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru. 


Dywedodd Llŷr Gruffydd: "Roedd hi'n wych cael siarad gyda disgyblion Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol Bro Alun, yn ystod eu hymweliad â'r Senedd er mwyn iddyn nhw allu dysgu am y gwaith sy'n digwydd yma."Roedden nhw'n awyddus iawn i ddarganfod sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru ac fe wnaethon nhw ofyn llawer o gwestiynau meddylgar, deallus a threiddgar.


"Fe wnaethant ddangos yn glir bod pobl ifanc eisiau ymwneud â gwleidyddiaeth, fel y gallant lunio sut mae'n effeithio ar eu bywydau.


"Mae meithrin y math hwn o ymgysylltiad cadarnhaol gan bobl ifanc gyda'r Senedd yn bwysig ar gyfer dyfodol ein democratiaeth yng Nghymru.


"Hoffwn ddiolch i ddisgyblion Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol Bro Alun yn ogystal â'r aelodau staff am estyn y fraint o siarad â nhw am waith y Senedd."

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Metro o'r radd flaenaf, neu gybolfa gandifflos amwys i ogledd Cymru?

 

Yr wythnos hon yn y Senedd fe heriodd Llyr Gruffydd y Llywodraeth i ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru.


 
Bydd y buddsoddiad o £1BN+ ym Metro De Cymru yn dod â system drafnidiaeth gyhoeddus o'r radd flaenaf, ond beth am y gogledd?
 
Dywedodd Llyr Gruffydd AS yn y Senedd-

 

"Mae llawer ohonom ni yng ngogledd Cymru yn edrych yn genfigennus ar y buddsoddiad sy'n mynd i mewn i fetro de Cymru, y £1 biliwn yn ogystal ag uwchraddio gwasanaethau, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu, ond, ar y llaw arall, mae gennym gybolfa gandifflos amwys sydd wedi'i frandio yn Fetro Gogledd Cymru sydd ond yn cysylltu gwasanaethau trên a bysiau presennol.
 
"Mae gwasanaethau bysiau, fel y gwyddom, wedi bod yn frawd bach tlawd i'r rheilffyrdd ers amser maith, gyda gwasanaethau'n dirywio ers cyn COVID, mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu cynigion y Llywodraeth ynghylch masnachfreinio bysiau a dod â'r afael sydd gan gwmnïau bysiau preifat ar y gwasanaethau hynny, ond er mwyn iddo weithio'n iawn, mae'n amlwg bod yn rhaid ei ariannu'n iawn.

 

"Aeth Llyr Gruffydd ymlaen i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet - Rebecca Evans -
 
"A allwch chi ein sicrhau heddiw y byddwch chi'n buddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau bysiau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth fysiau arfaethedig mor effeithiol ag yr ydym i gyd yn gobeithio y bydd hi? Ac a allwch hefyd ein sicrhau y bydd gogledd Cymru yn cael ei sleisen deg o'r gacen?"

 

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet yn benodol ar fater masnachfreinio bysiau -
 
"Yn anffodus, nid wyf yn gallu dweud mwy o ran y cyllid ar gyfer masnachfreinio bysiau yn y dyfodol, dim ond oherwydd nad ydym wedi cael y trafodaethau hynny eto, nid ydym eto wedi cael ein setliad gan Lywodraeth y DU. Nid ydym wedi dechrau cyfnod adolygu gwariant o'r math hwnnw eto. Ond byddwn yn ystyried pwysigrwydd gwasanaethau bysiau, wrth i ni gychwyn ar y trafodaethau hynny."

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Dathlu pen-blwydd Ysgol Pentrecelyn yn y Senedd!

 

Heddiw yn y Senedd cafodd Llyr Gruffydd y cyfle i ddymuno Penblwydd Hapus i Ysgol Pentrecelyn.

 

Dyma'r hyn ddywedodd Llyr yn Siambr y Senedd-

 

"Llongyfarchiadau i Ysgol Pentrecelyn ar ddathlu ei phenblwydd yn 150 mlwydd oed yr wythnos yma.

 

Fel cyn-riant a Llywodraethwr yno ar hyn o bryd, dwi ishe nodi’r garreg filltir nodedig yma i’r ysgol fechan wledig hon yn Nyffryn Clwyd.

 

Agorwyd Ysgol Pentrecelyn ar 11eg Mai 1874 gyda 34 o blant ar y gofrestr a Mr Owen Henry Owen, Gaerwen yn bennaeth.  Sarah Ann Winter o Siop Pentrecelyn oedd yr enw cyntaf ar y gofrestr a Grace Jones, Fron Isa oedd yr ail.

 

Ac mae ‘na filoedd o ddisgyblion wedi dilyn yn ôl eu traed nhw ar y gofrestr ers hynny. Pobl fel yr actorion Rhys Ifans a’i frawd Llyr Ifans, yr actores Victoria Pugh, y pianydd rhyngwladol Teleri Sian a’r cantorion nodedig Sera Baines ac Elis Jones – sydd hefyd gyda llaw yn bencampwr byd ar saethu colomennod clai’r– i enwi dim ond rhai o’i chyn-ddisgyblion!

 

Ac mae’r ysgol yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda arolwg disglair gan Estyn llynedd yn amlygu bod Ysgol Pentrecelyn yn ysgol ragorol sy’n darparu addysg a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel i’w disgyblion.

 

Fe gafwyd cyngerdd dathlu gyda channoedd lawer yn dod iddi rai wythnosau nol ac mi fydd yna ddiwrnod dathlu a pharti penblwydd mawr yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Sadwrn yma.

 

Fel ysgrifennodd Gareth Neigwl yn ei englyn bendigedig:

 

A’i haddysg imi’n wreiddyn – hyd fy oes,

I’w hiard fach rwy’n perthyn;

Lle bo’r daith daw llwybrau dyn

Yn ôl i Bentrecelyn.

 

Penblwydd hapus i Ysgol Pentrecelyn gan bawb yn Senedd Cymru!"

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Llywodraeth Cymru'n cytuno i ofynion Plaid Cymru i ohirio cynllun ffermio

Ddydd Mawrth, Mai 14eg mewn datganiad gan Huw Irranca Davies AS - Ysgrifennydd newydd y Cabinet sy'n gyfrifol am faterion gwledig - y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol yn cael ei wthio yn ôl y flwyddyn.
 
Yn hytrach na dechrau yn 2025, bydd y cynllun nawr yn dod i rym yn 2026 wedi pwysau cyson gan Llyr Gruffydd a Phlaid Cymru.
 
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) wedi denu llawer o feirniadaeth gan y diwydiant ffermio ers ei gyhoeddiad. Mae'r undebau ffermio a'r gymuned amaeth ehangach wedi bod yn llafar wrth fynegi eu pryderon i'r cynlluniau, gyda phryder eang gyda'r cynlluniau i blannu 10% o dir fferm gyda choed yn denu beirniadaeth.


Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Llyr Gruffydd AS yn ei rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig: "Rwy'n falch ein bod, drwy gytundeb cydweithredu Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau mwy o amser i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn iawn."Rwyf wedi dadlau ers tro bod rhuthro bendramwnwgwl i gynllun a fydd yn effeithio cenedlaethau o ffermio yn anghyfrifol ac yn ffôl. Mae gennym gyfle nawr i gymryd cam yn ôl a gwneud y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod y diwydiant yn prynu i mewn a chynllun mwy cynaliadwy ar gyfer ffermio ac ar gyfer natur. 


"Rwyf wedi bod yn gyson o'r diwrnod cyntaf bod cyflawni'r holl newidiadau a nodwyd gan y Llywodraeth yn y raddfa amser a ddarparwyd yn afrealistig, yn enwedig gyda'r angen i wrando ac ymateb i bryderon ffermwyr. Mae angen oedi blwyddyn yn fawr a bydd o ryddhad i lawer.
 
"Rwy'n falch ein bod heddiw wedi gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd agwedd bragmatig a synhwyrol tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a bod llawer o alwadau Plaid Cymru nid yn unig wedi cael gwrandawiad ond wedi cael eu cyflawni."

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Lansio deiseb i alw am hwb bancio i Ddinbych

 

Yn ddiweddar fe lansiodd Llyr Gruffydd ddeiseb i greu hwb bancio yn Ninbych.
 
Dywed Llŷr Gruffydd bod y ddeiseb yn "gyfle i anfon neges bwerus" yn dilyn cau cyfres canghennau yn y dref.
Mae gan y ddeiseb gefnogaeth lawn grŵp o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, sydd hefyd wedi bod yn galw am greu hwb bancio.
Mae Dinbych wedi cael ei adael heb un banc ar y stryd fawr wedi i HSBC, Halifax, NatWest a Barclays gau eu canghennau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
 
Mae ton o gau canghennau ledled y DU wedi arwain at greu canolfannau bancio fel bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau bancio hanfodol.
Datblygodd rhwydwaith mynediad ariannol ac ATM y DU, LINK y syniad ar gyfer y canolfannau hyn ond hyd yma maent wedi gwrthod creu un yn Ninbych.
Agorwyd canolfan fancio newydd ym Mhrestatyn ym mis Rhagfyr 2023 mewn ymateb i gau canghennau yn y dref.

Mae canolfannau bancio yn gweithredu mewn ffordd debyg i ganghennau banc traddodiadol. Ond mae'r mannau yn cael eu rhannu ac mae'r ganolfan yn cynnwys gwasanaeth cownter sy'n cael ei weithredu gan staff Swyddfa'r Post.
Gall cwsmeriaid unrhyw fanc dynnu'n ôl ac adneuo arian parod, gwneud taliadau biliau, a chynnal trafodion bancio rheolaidd. Mae yna hefyd fynediad ATM am ddim, ac arian yn ôl heb brynu.
 
Mae ganddynt fannau preifat ar gyfer delio â materion mwy cymhleth. Yn y rhain gall cwsmeriaid siarad ag aelod o staff o'u banc eu hunain.
Mae'r banciau hyn yn gweithio ar sail cylchdroi, ac mae hyn yn golygu bod staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol.
 
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, o Blaid Cymru: "Mae'n gwbl glir bod gwir angen hwb bancio yn Ninbych, a dyna pam rwyf wedi lansio'r ddeiseb hon.
"Mae'n gwbl annerbyniol bod pobl y dref a'r ardal gyfagos wedi cael eu gadael heb fynediad i'r gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt.

Mae canolfannau bancio yn gweithredu mewn ffordd debyg i ganghennau banc traddodiadol. Ond mae'r mannau yn cael eu rhannu ac mae'r ganolfan yn cynnwys gwasanaeth cownter sy'n cael ei weithredu gan staff Swyddfa'r Post.
Gall cwsmeriaid unrhyw fanc dynnu'n ôl ac adneuo arian parod, gwneud taliadau biliau, a chynnal trafodion bancio rheolaidd. Mae yna hefyd fynediad ATM am ddim, ac arian yn ôl heb brynu.
 
Mae ganddynt fannau preifat ar gyfer delio â materion mwy cymhleth. Yn y rhain gall cwsmeriaid siarad ag aelod o staff o'u banc eu hunain.
Mae'r banciau hyn yn gweithio ar sail cylchdroi, ac mae hyn yn golygu bod staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol.
 
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, o Blaid Cymru: "Mae'n gwbl glir bod gwir angen hwb bancio yn Ninbych, a dyna pam rwyf wedi lansio'r ddeiseb hon.
"Mae'n gwbl annerbyniol bod pobl y dref a'r ardal gyfagos wedi cael eu gadael heb fynediad i'r gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt.


"Dyma gyfle i anfon neges bwerus at LINK sydd hyd yma wedi gwrthod creu canolfan fancio yn Ninbych, er eu bod wedi gwneud hynny mewn mannau eraill.
"Erbyn hyn mae gan Prestatyn yn hollol gywir ganolfan fancio ac mae ond yn iawn fod gan dref maint Dinbych un hefyd.
 
"Rydych chi'n aml yn clywed y ddadl hon ar olwynion allan nad yw pobl yn defnyddio gwasanaethau bancio traddodiadol mwyach.
"Ond y gwir amdani yw bod llawer iawn o bobl leol yn dal i ddibynnu ar ddefnyddio arian parod. Yn syml, nid yw'n wir bod pawb yn symud i wasanaethau ar-lein."

Dywedodd cynghorydd Dinbych, Rhys Thomas, sy'n Ddirprwy Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych: "Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych yn cefnogi'r ddeiseb hon yn llawn gan alw am greu hwb bancio newydd yn Ninbych.
"Mae hwn yn gyfle i bobl leol sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac felly rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i gefnogi'r mater a'i gwneud yn glir i LINK bod galw sylweddol yn Ninbych am y gwasanaeth hanfodol hwn."

 

I arwyddo'r ddeiseb hon cliciwch yma

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd